Torch Theatre Makes Urgent Appeal

The following article is in Welsh and English

 

 

Theatr Y Torch O Dan Fygythiad wrth i’r Blwch Ariannu Lydanu

Galwad i Weithredu Wrth i Elusen Gyhoeddi Ymgyrch Codi Arian:

Helpwch i Warchod Gwasanaethau Cymunedol a Chadw’r Fflam yn Fyw

 

Rydym angen eich help …am dros 45 mlynedd mae Theatr y Torch wedi bod yn chwifio baner y celfyddydau yn Sir Benfro, gyda llesiant y bobl yn ein cymuned ar flaen y gad ym mhopeth a wnawn. Ac yn awr mae angen help ein cymuned arnom ni wrth i ni gyhoeddi ymgyrch anferthol dros y chwe mis nesaf wrth i’r Torch osgoi niweidio toriadau i’w rhaglen a gwasanaethau o fewn y gymuned.

 

Pam rydym angen eich help nawr Mae toriadau diweddar i gyllidebau awdurdodau lleol yn golygu bod Cyngor Sir Penfro wedi cael ei orfodi i drosglwyddo toriad o 93% i’n cyllid sydd, ynghyd ag effaith pandemig Covid-19 a’r dirywiad economaidd, wedi gadael y Torch (sy’n elusen gofrestredig) gyda bwlch ariannu o £250,000 y mae angen i ni ei lenwi ar frys. Mae sefydlogrwydd ariannol yn hollbwysig ac mae cefnogaeth ein cyllidwyr craidd yn cyfrannu at gynnal ein gweithrediad sylfaenol. Er hynny, mae’r rhan fwyaf o’n hincwm yn hunangynhyrchiol, gan gefnogi ein cenhadaeth i gyfoethogi bywydau’r bobl yn ein cymuned. Yn fwy nag erioed o’r blaen, rydym angen help ein cymuned i amddiffyn y gwasanaethau hyn.

 

Beth rydyn ni’n ei wneud a pham rydyn ni eisiau parhau i’w wneud Yn flynyddol, rydym yn cyflwyno 2000 o ddigwyddiadau a gweithgareddau, gyda mwy na 100,000 o bobl yn dod trwy ein drysau o Sir Benfro a thu hwnt i ddod o hyd i adloniant, hwyl, ffrindiau, dysgu, twf, profiadau newydd a llawenydd. Rydym yn adnabyddus ar draws Cymru fel theatr gynhyrchu gwobrwyedig, sinema annibynnol, a chanolfan y Celfyddydau, sy’n arddangos pob math o ymdrech artistig a meithrin talent. Darparwn weithgareddau a chyfleoedd cyfoethog sy’n llenwi lle arbennig ym mywydau pobl. Rydym yn datblygu creadigrwydd, profiadau dysgu, a chyfleoedd i gymdeithasu i bawb, gyda ffocws ar y rhai mwyaf agored i niwed, ynysig ac sydd angen cymorth.

 

Mae ein Theatr Ieuenctid enwog yn darparu gofod creadigol diogel a meithringar i bobl ifanc ddatblygu perthynas gydol oes gyda’r celfyddydau. Mae rhoi’r gallu i bobl gymryd rhan mewn digwyddiadau creadigol cynhwysol ac anfeirniadol yn hanfodol i greu teimladau o berthyn a chynhwysiant cymdeithasol, a thrwy ddarparu cyfleoedd cymorthdaledig rydym yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn gallu ffynnu, beth bynnag fo’u hamgylchiadau economaidd. Mae gweithgareddau eraill yn cynnwys ein côr cymunedol llawen Lleisiau’r Torch, Dosbarthiadau Creadigol i Oedolion, sioeau hamddenol a ffilmiau ar gyfer aelodau o’r gynulleidfa niwrowahanol ac eraill a allai elwa o amgylchedd hamddenol, a dangosiadau ffilm hygyrch ar gyfer ein cynulleidfa Fyddar. Cefnogwn gwaith hanfodol Côr Cysur Opera Cenedlaethol Cymru ar gyfer y rhai sy’n byw gyda dementia, grŵp symud pobl anabl Arts Care My Moves, a chwmni theatr Pobl yn Gyntaf Sir Benfro sy’n serennu oedolion anabl. Rydym yn gartref i grwpiau amatur hefyd, gan ddarparu llwyfan i Gymdeithas Operatig Amatur Aberdaugleddau, Dawnswyr FF a nifer o rai eraill.

 

Nid ydym ar ein pennau ein hunain yn yr amgylchedd newydd hwn o bwysau ariannol cynyddol a gwneud pethau’n wahanol mewn ymateb. Mae theatrau rhanbarthol, sinemâu a lleoliadau celfyddydol ledled y wlad yn teimlo’r wasgfa. Mae rhai eisoes wedi cau eu drysau am byth.

 

Mae hyn yn newydd i ni Nid ydym erioed wedi gofyn am y math hwn o gymorth, ond gall cymorth ddod ar sawl ffurf; fel rhodd unwaith ac am byth neu ddod yn rhoddwr rheolaidd, neu drwy ymuno â’n cynllun aelodaeth, dod yn Gyfaill i’r Torch fel gwirfoddolwr, trwy adael cymynrodd, neu’n syml trwy brynu tocyn a mwynhau pryd o fwyd yng Nghaffi’r Torch. Ar gyfer busnesau, mae gennym amryw o gyfleoedd i gydweithio drwy drefniadau partneriaeth, drwy noddi gweithgareddau penodol neu drwy hysbysebu gyda ni a chyrraedd cynulleidfaoedd o bob rhan o Sir Benfro a thu hwnt.

 

Mae cefnogi’r Torch yn golygu cefnogi’r economi yn Sir Benfro. Rydym yn talu ein cymuned yn ôl yn ddifesur. Mae ein gwaith yn cefnogi busnesau lleol, darparwyr addysg a’r economi dwristiaeth. Rydym yn defnyddio dros 50 o gyflenwyr lleol; yn trefnu cannoedd o arosiadau mewn lletyau a miloedd o brydau cyn sioe bob blwyddyn i fusnesau lleol ac rydym yn darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant unigryw. Fel rhan annatod o Aberdaugleddau, bwriadwn bod yma er budd cenedlaethau i ddod a byddwn yn siarad â chymaint o bobl â phosibl i egluro beth rydym yn ei wneud a sut y gall unrhyw un ein cefnogi. Gall unrhyw un wneud cyfraniad neu ymuno â ni fel gwirfoddolwr i’n helpu ni i ‘Garu’r Torch’.

 

I unrhyw un sy’n dymuno cynnig cymorth o unrhyw fath, siaradwch â ni. E-bostiwch support@torchtheatre.co.uk, ffoniwch ni ar 01646 401714 neu galwch heibio i’r Swyddfa Docynnau am sgwrs i weld sut medrwch helpu.

 

 

 

 

The Torch Theatre at Milford Haven is appealing for urgent help.

It says: “We need your help. For over 45 years the Torch  has been flying the flag for the arts in Pembrokeshire, with the wellbeing of the people in our community at the forefront of all we do. And now we need the help of our community as we announce a major fundraising drive over the next six months, as the Torch seeks to avoid damaging cuts to its programme and services within the community.

“Recent cuts to local authority budgets means Pembrokeshire County Council has been forced to pass on a 93% cut to our funding which, combined with the impact of the pandemic and the economic downturn, has left the Torch (which is a registered charity) with a funding gap of £250,000 that we are working urgently to fill. Financial stability is imperative, and the support of our core funders contributes toward maintaining our basic operation. However, the majority of our income is self-generated, supporting our mission to enrich the lives of the people in our community. More than ever before, we need our community’s help to protect these services.

“The Torch delivers 2,000 events and activities each year, with more than 100,000 people coming through our doors from Pembrokeshire and beyond to find entertainment, fun, friends, learning, growth, new experiences and joy. We’re well known across Wales as an award-winning producing theatre, independent cinema, and centre for the arts, showcasing all types of artistic endeavour and nurturing talent. We deliver enriching activities and opportunities that fill a special place in people’s lives. We develop creativity, learning experiences, and opportunities to socialise for everyone, with a focus on the most vulnerable, isolated and in need of support.

“Our celebrated Youth Theatre provides a safe and nurturing creative space for young people to develop skills for life and a lifelong relationship with the arts. Inclusive and non-judgmental, our programme creates a sense of belonging and social inclusion, and is subsidised to ensure that our young people can flourish, whatever their economic circumstances. Other activities include our joyful community choir Torch Voices, Adult Creative Classes, relaxed shows and films for neurodivergent audience members and others who may benefit from a relaxed environment, and accessible film screenings for our deaf audience. We support the vital work of the Welsh National Opera Cradle Choir for those living with dementia, Arts Care’s disabled people’s movement group, My Moves, and Pembrokeshire People First’s theatre company starring disabled adults. We are home to amateur groups too, providing a stage for Milford Haven Amateur Operatic Society, FF Dancers and many more.

“We’re not alone in this new environment of increasing funding pressures and doing things differently in response. Regional theatres, cinemas and arts venues all over the country are suffering. Some have already closed their doors for good.

“We have never asked for this kind of support before, but support can come in many forms; as a one-off gift or by becoming a regular donor, by joining our membership scheme, by becoming a Friend of the Torch as a volunteer, by leaving a legacy, or simply by buying a ticket and enjoying a meal in Café Torch. For businesses, we have a range of opportunities to work together through partnership arrangements, by sponsoring specific activities or by advertising with us and reaching audiences of 100,000 from across Pembrokeshire and beyond.

“Supporting the Torch means supporting the economy in Pembrokeshire. We pay back in to our community in spades. Our work supports local businesses, schools and colleges, and the tourist economy. As an integral part of Milford Haven, we plan to be here for the benefit of generations to come and we’ll be talking to as many people as possible to explain what we’re doing and how anyone can support us. Anyone can make a donation or join us as a volunteer to help us ‘Caru the Torch’.”

Anyone wishing to offer support is asked to contact the Torch on support@torchtheatre.co.uk or 01646 401714 – or call into the box office to find out more.

Kitty Parsons

Kitty has forgotten how long she has been here now but she loves Pembrokeshire for its beauty and it's people. She spends her time searching out stories for pembrokeshire.online, swimming in the sea , drawing and painting as Snorkelfish and eating cake. She says "Pembrokeshire.online has been an opportunity to celebrate this beautiful county and its people. Keep the stories coming. We love to hear from you."

You may also like...