Castle Visit Reward for Rhys

This article is in Welsh and English

Croesawyd Rhys a’i deulu i Gastell Caeriw, yn dilyn ei fuddugoliaeth yn y gystadleuaeth. Rhys and his family were welcomed to Carew Castle, following his competition win.

 

Enillydd cystadleuaeth i enwi trên yn cael ymweliad arbennig â Chastell Caeriw

Mae bachgen ysgol o Sir Gâr a’i deulu wedi mwynhau ymweliad arbennig â Chastell Caeriw yn ystod gwyliau’r Pasg, diolch i’w lwyddiant mewn cystadleuaeth genedlaethol i enwi trên.

Cymerodd Rhys Protheroe, disgybl Blwyddyn 5 yn Ysgol Gynradd Tre Ioan yng Nghaerfyrddin, ran yng nghystadleuaeth Trafnidiaeth Cymru, Y Daith Drên Odidog,
a oedd yn rhoi cyfle i ddisgyblion ysgolion cynradd ddod yn rhan o hanes y rheilffyrdd drwy awgrymu enwau ar gyfer fflyd o drenau Dosbarth 197 newydd.

Roedd yn rhaid i’r enwau fod yn seiliedig ar le go iawn, tirnod, safle hanesyddol neu ffigwr chwedlonol a oedd yn gysylltiedig â lleoedd o fewn rhwydwaith Cymru a’r Gororau, a daeth awgrym Rhys, sef Castell Caeriw Cyflym, i’r brig.

Dywedodd Rheolwr Castell Caeriw, Daisy Hughes: “Roedden ni wrth ein bodd o glywed bod Castell Caeriw wedi creu’r fath argraff ar Rhys fel ei fod eisiau enwi trên ar ôl y safle. Mae cystadleuaeth Trafnidiaeth Cymru, Y Daith Drên Odidog, wedi bod yn ffordd wych o annog pobl ifanc i feddwl am hanes gyfoethog a llên gwerin Cymru – a’r llefydd sy’n agos at eu calonnau.

Bu’n bleser gwahodd Rhys a’i deulu i Gaeriw ac i gyflwyno bag o bethau da iddo, a gobeithiwn y bydd enw’r trên newydd yn ysbrydoli llawer mwy o deithwyr i ymweld â’r Castell ac i ddarganfod ei orffennol diddorol.”

Mae’r Castell Caeriw Cyflym yn rhan o fflyd o drenau Dosbarth 197 newydd, sy’n cynnig mwy o le ac yn fwy cysurus, a bydd yn rhan hollbwysig o wasanaethau prif linell Trafnidiaeth Cymru.

Mae Castell a Melin Heli Caeriw yn cael ei redeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae ar agor bob dydd rhwng 10am a 4.30pm (mynediad olaf am 4pm) a bydd yn cynnal rhaglen lawn o ddigwyddiadau drwy gydol yr haf. Am fanylion pellach ewch i www.castellcaeriw.com.

 

A Carmarthenshire schoolboy and his family enjoyed a complimentary visit to Carew Castle during the Easter holidays, thanks to his success in a national train naming competition.

Rhys Protheroe, a Year 5 pupil at Johnstown Primary School in Carmarthen, took part in the Transport for Wales (TfW) Magnificent Train Journey competition, which offered primary school pupils the opportunity to become part of railway history by suggesting names for a fleet of new Class 197 trains.

Names had to be based on a real place, landmark, historical site or mythical figure associated with places within the Wales and Borders network, and Rhys’s suggestion of Carew Castle Express proved a winner.

Manager of Carew Castle Daisy Hughes said: “We were thrilled to hear that Carew Castle had made such an impression on Rhys that he wanted to name a train after the site. TfW’s Magnificent Train Journey competition has been a wonderful way of encouraging young people to think about the rich history and folklore of Wales – and the places that are special to them.

“It was a pleasure to invite Rhys and his family to Carew and present him with a goodybag, and we hope that the name of the new train inspires many more travellers to pay a visit and discover the Castle’s fascinating past.”

The Carew Castle Express forms part of a fleet of new Class 197 trains, which are said to offer greater capacity and enhanced onboard comfort.

Carew Castle and Tidal Mill is run by Pembrokeshire Coast National Park Authority. It is open every day between 10am and 4.30pm (last entry at 4pm) and will host a packed programme of events throughout the summer.

Further details: www.carewcastle.com.

Kitty Parsons

Kitty has forgotten how long she has been here now but she loves Pembrokeshire for its beauty and it's people. She spends her time searching out stories for pembrokeshire.online, swimming in the sea , drawing and painting as Snorkelfish and eating cake. She says "Pembrokeshire.online has been an opportunity to celebrate this beautiful county and its people. Keep the stories coming. We love to hear from you."

You may also like...