Bargain Price Cinema Tickets on Sale

Scroll down for English

THEATR Y TORCH YN CYNNAL SÊL Y GAEAF I DDIOLCH I’W CHEFNOGWYR

Fel modd o ddiolch yn fawr iawn i’w chefnogwyr bydd Theatr y Torch, Aberdaugleddau, yn cynnig tocynnau sinema £5 fel rhan o Sêl y Gaeaf. Yn dilyn blwyddyn galed i sefydliadau celfyddydol ar draws y wlad mae’r Torch am roi rhywbeth yn ôl i bawb sy’n ymweld drwy wneud taith i’r sinema yn fwy fforddiadwy i bawb. Bydd Sêl y Gaeaf yn digwydd rhwng Ionawr 19 a Chwefror 29 a bydd yn darparu rhywfaint o hwyl ac adloniant y mae mawr eu hangen yn ystod y dyddiau oer a gwlyb.

Mae Janine Grayshon, Cydlynydd Rhaglen Artistig Theatr y Torch yn gobeithio y bydd llawer yn mynychu’r sinema i weld yr amryw o ffilmiau sydd ar gael, gan gynnwys The End We Start From, yn serennu’r gwych Jodie Comer, y biopic dadleuol, Priscilla ac wrth gwrs, ffefryn pawb – Peppa Pig!

“Rydym yn falch iawn o fod yn cynnig tocynnau sinema am bris gostyngol. Mae’r Torch wedi derbyn cymaint o gefnogaeth gan ein cymuned felly pa ffordd well i ddweud diolch na thrwy wneud taith sinema yn fwy fforddiadwy. Gyda rhestr wych o ffilmiau, rwy’n siŵr bod rhywbeth at ddant pawb! A pheidiwch ag anghofio codi eich cerdyn
teyrngarwch sinema yn y Swyddfa Docynnau am fwy fyth o fuddion,” meddai Janine.

Mae Theatr y Torch yn lle croesawgar i bob oed ac o fis Ionawr i fis Mawrth bydd hefyd yn cynnal rhaglen newydd sbon o'r enw Lle Cynnes sy’n addas i'r rhai dros 50 oed. Mae'r gweithgareddau rhad ac am ddim
yn cynnwys drama, peintio, ioga a chlwb llyfrau, a wnaed yn bosibl oherwydd cefnogaeth gan gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

“Rydyn ni’n gwybod bod cael y cyfle i gael mynediad at gysylltiadau  creadigol diogel a rheolaidd yn cefnogi iechyd meddwl a llesiant pawb, felly bydd ein rhaglen dreigl o ddigwyddiadau pythefnosol yn galluogi pobl i ddewis o ystod o weithgareddau ymarferol. Mae pob sesiwn hefyd yn cynnwys te a choffi, yn ogystal â digon o amser i sgwrsio a chwrdd â ffrindiau,” esboniodd Tim Howe, Uwch Reolwr, Ieuenctid a Chymuned yn y Torch.

Am fwy o wybodaeth ar ddangosiadau sinema a Lle Cynnes yn y Torch, neu i ddod yn aelod o Theatr y Torch, cysylltwch gyda Swyddfa Docynnau’r Theatr ar (01646) 695267 /

https://www.torchtheatre.co.uk/support-us/memberships/.

 

 

The Torch Theatre, Milford Haven, is offering £5 cinema tickets as part of a winter sale. After a tough year for arts organisations across the country, the Torch says it wants to give something back to everyone who visits by making a trip to the cinema more affordable.

The sale will run from 19 January to 29 February.

Janine Grayshon, the Torch’s artistic programme coordinator hopes that many will attend the cinema to see the array of films on offer, including The End We Start From, Priscilla and Peppa Pig.

She said: “We are delighted to be offering discounted cinema tickets. The Torch has received so much support from our community, so what better way to say thank you than by making a cinema trip more affordable. With such a great line-up of films, I’m sure there’s something for everyone. And don’t forget to pick up your cinema loyalty card at the box office for even more benefits.”

From January to March theTorch will also host a brand-new programme called A Warm Space at the Torch suitable for those over 50. The free activities on offer include drama, painting, yoga and a book club, made possible due to support from the National Lottery community fund.

“We know that having the opportunity to access safe and regular creative connections supports everyone’s mental health and wellbeing, so our fortnightly rolling programme of events will allow people to choose from a range of hands-on activities. Each session includes tea and coffee, as well as plenty of time to chat and catch up with friends,” said Tim Howe, senior manager, youth and community.

For further information or to become a Torch Theatre member, contact the box office on 01646 695267.

https://www.torchtheatre.co.uk/support-us/memberships/.

Kitty Parsons

Kitty has forgotten how long she has been here now but she loves Pembrokeshire for its beauty and it's people. She spends her time searching out stories for pembrokeshire.online, swimming in the sea , drawing and painting as Snorkelfish and eating cake. She says "Pembrokeshire.online has been an opportunity to celebrate this beautiful county and its people. Keep the stories coming. We love to hear from you."

You may also like...