See the Lost Words

The following article is in Welsh and English

Pennawd: Bydd y darlunydd Jackie Morris yn treulio’r diwrnod yn rhannu ei gwaith ag ymwelwyr ddydd Sadwrn 4 Tachwedd.  Illustrator Jackie Morris will spend the day sharing her work with visitors on Saturday 4 November.

Cyfle i ddarganfod byd y Geiriau Diflanedig gyda’r darlunydd Jackie Morris

 Bydd y darlunydd enwog, Jackie Morris, yn ymddangos ochr yn ochr â’i gwaith ei hun yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi ar gyfer digwyddiad unigryw sy’n rhan o’r arddangosfa gyfredol Geiriau Diflanedig – The Lost Words.

 Mae’r llyfr Geiriau Diflanedig wedi ennill gwobrau ac mae’n edrych ar y berthynas rhwng iaith a’r byd bywMae’r arddangosfa deithiol yn dwyn ynghyd y gwaith celf gwreiddiol gan Jackie Morris a’r cerddi Cymraeg gan Mererid Hopwood a’r cerddi Saesneg gan Robert Macfarlane.

Bydd y digwyddiad galw heibio rhad ac am ddim ddydd Sadwrn 4 Tachwedd yn rhoi cyfle i ymwelwyr gwrdd â darlunydd y llyfr wrth iddi dreulio’r diwrnod yn rhannu ei gwaith yn yr Oriel.

Dywedodd Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc: “Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ymgolli ym myd hudolus Geiriau Diflanedig a chysylltu â’r artist sy’n gyfrifol am y darluniau hudolus. Agorodd yr arddangosfa ddechrau mis Gorffennaf ac mae wedi bod yn boblogaidd dros ben. Mae wedi rhoi cyfle i ymwelwyr weld yr ymdrechion sy’n cael eu gwneud i fynd i’r afael â’r bygythiadau sy’n wynebu natur a’r Gymraeg.”

Bydd Jackie Morris: Darlunio a Pheintio yn yr Oriel yn cael ei gynnal yn Oriel y Parc rhwng 10am a 4pm ddydd Sadwrn 4 Tachwedd.

Mae geiriau a dyfrlliwiau o’r llyfr hefyd yn cael eu harddangos yn yr Ysgwrn yng Ngwynedd fel rhan o’r cydweithio rhwng Amgueddfa Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa Geiriau Diflanedig – The Lost Words ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/geiriau-diflanedig/.

Mae rhagor o wybodaeth am amseroedd agor yn ogystal â digwyddiadau ac arddangosfeydd eraill yn Oriel y Parc ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc.

image courtesy of Moslaze at PixabaI

Illustrator Jackie Morris will be appearing alongside her own work at Oriel y Parc Gallery and Visitor Centre in St Davids for an event that forms part of the current Geiriau Diflanedig – The Lost Words exhibition.

Based on the award-winning book The Lost Words, which explores the relationship between language and the living world, the touring exhibition brings together the original artwork by Morris, alongside English-language poems by Robert Macfarlane and Welsh-language poems by Mererid Hopwood.

The free drop-in event on Saturday 4 November will offer visitors the chance to meet the book’s illustrator as she spends the day sharing her work in the gallery.

The manager of Oriel y Parc, Rachel Perkins, said: “This event will be a wonderful opportunity to delve into the enchanting world of The Lost Words and connect with the artist behind its captivating illustrations. The exhibition, which opened at the beginning of July, has proved very popular and has also given visitors an insight into the efforts being made to combat the threats that nature and the Welsh language face.”

Jackie Morris: Drawing and Painting in the Gallery is at Oriel y Parc, 10am–4pm, Saturday 4 November.

Words and watercolours from the book are also on display at Yr Ysgwrn in Gwynedd as part of the collaboration between Amgueddfa Cymru, Pembrokeshire Coast National Park Authority and Eryri (Snowdonia) National Park Authority.

More information: www.pembrokeshirecoast.wales/oriel-y-parc/the-lost-words/.

www.orielyparc.co.uk.

Kitty Parsons

Kitty has forgotten how long she has been here now but she loves Pembrokeshire for its beauty and it's people. She spends her time searching out stories for pembrokeshire.online, swimming in the sea , drawing and painting as Snorkelfish and eating cake. She says "Pembrokeshire.online has been an opportunity to celebrate this beautiful county and its people. Keep the stories coming. We love to hear from you."

You may also like...