Sunset Cinema is Back
The following article is in Welsh and English. Please scroll down for the English version…
THEATR Y TORCH YN CYFLWYNO SINEMA MACHLUD 2023
Ers 2015, mae Sinema Machlud Theatr y Torch wedi bod yn diddanu miloedd o bobl o bob
oed wrth iddi fynd â’i sgrin fawr i rai o’n lleoliadau a’n tirnodau harddaf ar draws y sir. Nid
yw eleni’n eithriad ac mae’n bleser gennym gyhoeddi rhaglen wych o ffilmiau a pharhau â’n
hymrwymiad i fynediad a chynwysoldeb i bawb ledled Sir Benfro.
O Faes Gwersylla Fferm Dewslake i Gastell Cydweli, bydd Sinema Machlud, y dangosiadau
ffilm awyr agored yn teithio i 12 lleoliad gwahanol o ddydd Gwener 28 Gorffennaf hyd at
ddydd Sadwrn 2 Medi gan ddangos rhai o hoff ffilmiau mawr fel The Greatest Showman i
Matilda the Musical.
Fel sefydliad dielw, uchelgais Theatr y Torch gyda Sinema Machlud, mewn partneriaeth â
phartneriaid lleoliadau ar draws Sir Benfro, yw cyrraedd cynulleidfaoedd newydd, gan fynd
â’n hoffer uwch-dechnoleg ar daith i sicrhau bod cannoedd o bobl yn gallu mwynhau noson
fendigedig o adloniant, yn agos gartref ac yn hygyrch i bawb.
Chelsey Gillard, Cyfarwyddwyr Artistig Theatr y Torch sy’n esbonio mwy:
“Rydym wrth ein bodd i fod allan, ar draws Sir Benfro a thu hwnt, gyda Sinema Machlud eto
yr haf hwn. Mae llwyth o ddanteithion sinematig i’r teulu cyfan mewn amrywiaeth o
leoliadau eiconig ar draws gorllewin Cymru; o gestyll, i gaeau blodau'r haul, i gaeau rygbi a
pharciau gwledig. Ni allwn aros i fod ar y ffordd eto yn gweithio mewn partneriaeth â
chymaint o leoliadau a sefydliadau anhygoel i sicrhau ein bod yn rhoi croeso cynnes i bawb
ac yn creu profiadau bythgofiadwy i gymunedau ar draws y sir.”
Mae’r profiad sinema awyr agored hoffus yn boblogaidd gydag oedolion a phlant fel ei
gilydd ac yn rhoi profiad hudolus i wylwyr o dan y sêr. Ac nid yn unig mae’n gyfle i wylio’ch
hoff ffilm, ond gallwch hefyd weld beth sydd gan bob lleoliad i’w gynnig ar noson hwyr o
haf.
Bydd rhai lleoliadau hefyd yn cynnig cerddoriaeth, stondinau bwyd, caffi a bar i'w mwynhau
cyn ac yn ystod y ffilm. Mae pob lleoliad yn wahanol a dylid cysylltu â nhw yn unigol i weld
beth maen nhw'n ei gynnig.
Bydd Sinema Machlud yn mynd yn ei flaen os bydd hi'n bwrw glaw ar y noson a bydd ond yn
cael ei ganslo os bydd gennym wyntoedd cryf iawn. Fe'ch cynghorir i fynd â blanced gynnes
a chadair. Mae hygyrchedd/cyfleusterau cadair olwyn ar gyfer y rhai ag anabledd ar gael yn
y rhan fwyaf o leoliadau ond fe’ch cynghorir i gadarnhau gyda phob lle.
I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu eich tocynnau, ewch i torchtheatre.co.uk neu
ffoniwch ein tîm cyfeillgar yn y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267. Gellir prynu tocynnau
hefyd ym mhob lleoliad ar noson y dangosiad.
GWELER DYDDIADAU TAITH SINEMA ISOD:
TAITH SINEMA MACHLUD 2023
DYDDIAD LLEOLIAD FFILM
Dydd Gwener Gorffennaf 28ain Llwyfan MHPA Mackerel Top Gun
Dydd Gwener 4ydd Awst Clwb Rygbi Cwins Doc Penfro Bohemian Rhapsody
Dydd Iau 10fed Awst Maes Gwersylla Fferm Dewslake Big Fish
Dydd Gwener 11eg Awst Clwb Chwaraeon Hook Top Gun Maverick
Dydd Sadwrn 12fed Awst Blodau Haul Sir Benfro, Trefdraeth Grease
Dydd Mercher 16eg Awst Tŵr y Felin Elvis (2022)
Dydd Iau 17egth August Parc Gwledig Slebech The Greatest Showman
Dydd Gwener 18tfed Awst MHPAuth Mackerel stage The Little Mermaid
Dydd Sadwrn 19fed Awst Parc Maenordy Scolton Paddington 2 @3PM
Dydd Sadwrn 19eg Awst Parc Maenordy Scolton Jurassic World: Dominion
@7pm
Dydd Mawrth 22ain Awst Gerddi Muriog Ystagbwll Bohemian Rhapsody
Dydd Iau 24ain Awst Castell Cydweli Super Mario Bros
Gwener 25ain Awst Castell Cydweli Indiana Jones 5
Dydd Iau 31ain Awst Castell Penfro Matilda The Musical
Dydd Gwener 1af Medi Castell Penfro Les Miserable
Dydd Gwener 2ail Medi Neuadd Fictoria, Roch Indiana Jones 5
Since 2015, the Torch Theatre’s Sunset Cinema has been entertaining thousands of people
of all ages as it takes its big screen to some of the most beautiful locations and landmarks
across the county. This year is no exception and the Torch Theatre has announced
a new programme of movies, continuing its commitment to access and inclusivity for all
across Pembrokeshire.
From Dewslake Farm campsite to Kidwelly Castle, the outdoor film screenings will tour 12 different locations from Friday 28 July through to Saturday 2
September, showing film favourites such as The Greatest Showman and Matilda the Musical.
As a not-for-profit organisation, the Torch Theatre’s ambition with Sunset Cinema is to reach new audiences, taking high-tech equipment on tour with the aim of hundreds of people enjoying a wonderful night’s entertainment, close to home and accessible for everyone.
Chelsey Gillard, Torch Theatre’s artistic director, says: “We are thrilled to be out and about, across Pembrokeshire and beyond, with Sunset
Cinema again this summer. There’s loads of cinematic treats for the whole family at a range of iconic locations across west Wales; from castles to sunflower fields to rugby pitches and country parks. We can’t wait to be on the road again working in partnership with so many amazing venues and organisations to ensure we give everyone a warm welcome and create unforgettable experiences for communities across the county.”
The outdoor cinema experience is popular with adults and children alike. And it’s not only an opportunity to
watch your favourite film, but you can also see what each venue has to offer on a late-summer evening.
Some venues will also offer music, food stalls, a café and bar to enjoy before and during the
movie. Each venue is different and should be contacted individually to see what it offers.
Sunset Cinema will go ahead if it rains on the night and will only be cancelled if there are very
strong winds. You are advised to take a warm blanket and chair. Wheelchair
accessibility/facilities for those with a disability are available at most venues but it’s advised
to confirm with each place.
For further information or to book your tickets, visit www.torchtheatre.co.uk or call 01646 695267. Tickets can also be purchased at each venue on the night
of the screening.
SUNSET CINEMA TOUR 2023
Friday 28 July MHPA Mackerel stage – Top Gun
Friday 4 August Pembroke Dock Quins RFC – Bohemian Rhapsody
Thursday 10 August Dewslake Farm Campsite – Big Fish
Friday 11 August Hook Sports Club – Top Gun Maverick
Saturday 12 August Pembrokeshire Sunflowers, Newport – Grease
Wednesday 16 August Twr y Felin – Elvis (2022)
Thursday 17 August Slebech Country Park – The Greatest Showman
Friday 18 August MHPAuth Mackerel stage – The Little Mermaid
Saturday 19 August Scolton Manor Park – Paddington 2, 3PM
Saturday 19 August Scolton Manor Park – Jurassic World: Dominion, 7pm
Tuesday 22 August Stackpole Walled Gardens – Bohemian Rhapsody
Thursday 24 August Kidwelly Castle – Super Mario Bros
Friday 25 August Kidwelly Castle – Indiana Jones 5
Thursday 31 August Pembroke Castle – Matilda The Musical
Friday 1 September Pembroke Castle – Les Miserables
Saturday 2 September Victoria Hall, Roch – Indiana Jones 5