Smallest City, Fiercest Dragons

This message from Pembrokeshire Coast National Park is in Welsh and English. Please scroll down for the English version.

 

Gorymdaith y Dreigiau i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi

 

Os ydych chi’n chwilio am ffordd hwyliog o ymuno â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi eleni, ewch i ddinas leiaf Prydain ddydd Sadwrn 4 Mawrth ar gyfer Gorymdaith flynyddol y Dreigiau.

Mae’r parêd yn cael ei drefnu gan Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc. Bydd disgyblion o ysgolion lleol ac aelodau gofal yn y gymuned, ynghyd â’u dreigiau disglair, yn cerdded i lawr y Stryd Fawr, gyda band Corfflu Hyfforddiant Awyr Sgwadron 948 Hwlffordd a dinas Tyddewi yn eu cefnogi.

Bydd Maer a Deon Tyddewi hefyd yn ymuno â disgyblion Ysgol Penrhyn Dewi, Ysgol Croesgoch a disgyblion ysgol baratoadol breifat Ysgol y Castell, Hwlffordd.

Yn ôl Claire Bates, Rheolwr Oriel y Parc: “Mae wedi bod yn wych gweld dreigiau anhygoel yn cael eu dylunio yn ystod y gweithdai rhad ac am ddim sydd wedi cael eu arwain gan Elly Morgan – yr artist lleol.

“Gall unrhyw un ymuno â’r orymdaith neu fynd ar y strydoedd i gefnogi’r digwyddiad, a byddem yn annog pawb i wisgo unrhyw beth sy’n dathlu diwylliant Cymru er mwyn helpu i ddechrau penwythnos Dydd Gŵyl Dewi mewn steil.”

Bydd cyfle i ymwelwyr ag Oriel y Parc ar 4 neu 5 Mawrth gael tusw o gennin Pedr yn rhad ac am ddim, gyda nifer cyfyngedig ohonynt hefyd yn cael eu dosbarthu yng Nghastell Caeriw a Chastell Henllys ar y dyddiadau hyn. Bydd pob tusw yn cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin.

I gael gweld rhestr lawn o’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn Nhyddewi rhwng 18 Chwefror a 4 Mawrth i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, ewch i www.stdavids.gov.uk.

I gael rhagor o wybodaeth am Oriel y Parc, gan gynnwys amserau agor, digwyddiadau ac arddangosfeydd, ewch i www.orielyparc.co.uk.

Penawdau: Bydd Gorymdaith y Dreigiau 2023 yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 4 Mawrth, yn dechrau yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc am 11am.

 

Image from Sarah Richter at Pixabay

If you’re looking for a fun way to join in the St David’s Day celebrations this year, head to Britain’s smallest city on Saturday 4 March for the annual Dragon Parade.

The procession, organised by Oriel y Parc Gallery and Visitor Centre, will see local school pupils and care-in-the-community members and their dazzling dragons walk down the High Street, supported by the 948 Haverfordwest and City of St Davids Squadron ATC band.

Pupils from Ysgol Penrhyn Dewi, Ysgol Croesgoch and prep school pupils from Castle School, Haverfordwest, will also be joined by the Mayor and Dean of St Davids.

Oriel y Parc manager Claire Bates said: “It’s been great to see the amazing dragon designs coming to life during the free workshops that have been delivered by local artist Elly Morgan.

“Anyone can join the parade or line the streets to support the event and we’d encourage everyone to wear anything that celebrates Welsh culture to help kick off the St David’s Day weekend in style.”

Visitors to Oriel y Parc on 4 or 5 March will also be in with a chance of receiving a free bunch of daffodils, with a limited number also being given out at Carew Castle and Castell Henllys on these dates. Bunches will be handed out on a first come, first served basis.

To see a full list of events being held in St Davids to celebrate St David’s Day, visit www.stdavids.gov.uk.

For more information about Oriel y Parc, including opening times, events and exhibitions, visit www.orielyparc.co.uk.

 

Captions: The 2023 Dragon Parade will take place on Saturday 4 March, leaving Oriel y Parc Gallery and Visitor Centre at 11am.

Kitty Parsons

Kitty has forgotten how long she has been here now but she loves Pembrokeshire for its beauty and it's people. She spends her time searching out stories for pembrokeshire.online, swimming in the sea , drawing and painting as Snorkelfish and eating cake. She says "Pembrokeshire.online has been an opportunity to celebrate this beautiful county and its people. Keep the stories coming. We love to hear from you."

You may also like...