Last Chance to See Exhibition Reflecting the Beauty of Our Coast

The current exhibition at the Torch Theatre, Milford Haven, runs until the end of February.

The information below is in Welsh and English. Please scroll down for the English version.

Stiwdio Saltwater yn arddangos yn Oriel Joanna Field, yn y Torch

Mae casgliad o waith celf o siop Stiwdio Saltwater ym Mhenfro, sy’n cynnwys gwaith y perchennog Amanda Griffiths, yn cael ei arddangos yn Oriel Theatr y Torch yn ystod fis Chwefror. Mae amgylchedd anhygoel Sir Benfro ac yn arbennig ein harfordir godidog yn dylanwadu’n fawr ar y gwaith celf a arddangosir.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys posteri a phrintiau, gemwaith arian sterling a lluniau wedi’u ffeltio â llaw. Mae pob un ohonynt yn enghreifftiau o’r hyn sydd ar werth yn Saltwater Studio ym Mhenfro.

Mae arfordir Sir Benfro yn dylanwadu’n drwm ar waith celf Amanda ac mae’n cael ei greu a’i atgynhyrchu mewn amrywiaeth o gyfryngau. Ar ôl graddio mewn graffeg a phecynnu ym Mhrifysgol Brookes Rhydychen bu Amanda yn gweithio am ychydig dros 15 mlynedd yn y diwydiant dylunio, ond roedd ganddi bob amser ddawn greadigol i gynhyrchu anrhegion a nwyddau cartref. Mae’r gwaith celf yn cynnwys ei hystod gyfnewidiol o bosteri, printiau, cardiau cyfarch a matiau diod, oll wedi’u dylunio ganddi, ac wedi’u hysbrydoli gan olygfeydd yr ardal.

Mae Sue Powell yn creu lluniau wedi eu ffeltio â llaw, y rhan fwyaf ohonynt o’n moroedd lleol a’r adar sy’n byw neu’n ymweld â nhw’n flynyddol. Gan ymweld â Sgomer yn rheolaidd, mae Sue yn tynnu lluniau y mae hi yna’n eu hastudio cyn cynhyrchu ei lluniau manwl a lliwgar. Defnyddia Sue dechnegau ffeltio gwlyb a ffeltio nodwydd yn ei gwaith.

Karen Clarkson sy’n gyfrifol am y gemwaith arian sterling o’r enw Serennu. Defnyddia Karen gregyn a ddarganfuwyd ar draethau lleol i gastio ei darnau ohonynt – mwclis, breichledau a chlustdlysau – oll yn unigol ac yn unigryw wedi’u gwneud o arian wedi’u mowldio a’u toddi.

Wrth drafod yr arddangosfa, meddai Amanda: “Rydym yn falch iawn o fod yn arddangos ein gwaith yn Oriel y Torch. Mae pob un o’r darnau rydyn ni’n eu dangos wedi cael eu dylanwadu yn eu dyluniad a’u creadigedd gan ein cefn gwlad a’n harfordir godidog yn Sir Benfro. Does gennym ni ddim lle i gyflwyno’r cyfan rydyn ni’n ei gynnig yn Stiwdio Saltwater, ond gobeithiwn y bydd pobl yn gweld ein gwaith yn ysbrydoledig ac yn adlewyrchiad o harddwch ein sir.”

 

A collection of artwork from the Saltwater Studio shop in Pembroke, which includes proprietor Amanda Griffiths’ work, is exhibiting at the Torch Theatre’s gallery this month. The work on show is all heavily influenced by Pembrokeshire’s amazing environment and in particular its stunning coastline.

The exhibition showcases posters and prints, sterling silver jewellery and hand-felted pictures, all of which are examples of what’s available for sale at Saltwater Studio.

Amanda’s artwork is heavily influenced by the Pembrokeshire coastline and is created and reproduced in a variety of media. After graduating in graphics and packaging at Oxford Brookes University, Amanda worked for 16 years in the design industry but always had a creative flair for producing gifts and homeware. The artwork features her ever-changing range of posters, prints, greetings cards and coasters.

Sue Powell creates hand-felted pictures, most of which are of the local seas and the birds that live there or visit each year. Visiting Skomer regularly, Sue takes photographs which she then studies before producing her colourful pictures.

Serennu sterling silver jewellery is presented by Karen Clarkson. Karen uses shells found on local beaches from which to cast her pieces – necklaces, bracelets and earrings – which are all individual and made from moulded and melted silver.

Amanda said of the exhibition: “We are delighted to be exhibiting our work at the Torch Gallery. All of the pieces we’re showing have been influenced in their design and creation by our stunning Pembrokeshire countryside and coastline. We don’t have space to present all we offer at Saltwater Studio but we hope people find our work inspiring and a reflection of the beauty of our county.”

The exhibition goes on until 28 February when the theatre’s box office is open.

 

 

Kitty Parsons

Kitty has forgotten how long she has been here now but she loves Pembrokeshire for its beauty and it's people. She spends her time searching out stories for pembrokeshire.online, swimming in the sea , drawing and painting as Snorkelfish and eating cake. She says "Pembrokeshire.online has been an opportunity to celebrate this beautiful county and its people. Keep the stories coming. We love to hear from you."

You may also like...