New Litter Picking Hub at Oriel y Parc

This is a bilingual message from Pembrokeshire Coast National Park. Please scroll down for the English version…

 

Hyb codi sbwriel newydd yn cael ei lansio yn Oriel y Parc

 

Mae Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi wedi ymuno â Cadwch Gymru’n Daclus i greu hyb codi sbwriel cymunedol newydd.

Bydd yr hyb, sy’n rhan o gynllun Caru Cymru Cadwch Gymru’n Daclus, yn lansio ar safle Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gyda digwyddiad codi sbwriel cymunedol arbennig ar 31 Ionawr.

Mae sbwriel wedi dod yn broblem gynyddol ym mhob rhan o Gymru dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae wedi bod yn arbennig o amlwg mewn ardaloedd gwledig a mannau hardd, lle gwelwyd llawer mwy o ymwelwyr nag arfer. Drwy weithio gydag awdurdodau lleol, nod Caru Cymru yw ysbrydoli unigolion, grwpiau cymunedol a busnesau i fod yn rhagweithiol wrth ofalu am eu hamgylchedd lleol.

Bydd yr hyb newydd yn Oriel y Parc yn ymuno â rhwydwaith o hybiau eraill ledled y wlad, sy’n cynnig benthyg offer codi sbwriel yn rhad ac am ddim, gan gynnwys teclynnau i godi sbwriel, festiau llachar, bagiau a chylchoedd sbwriel.

Meddai Claire Bates, Rheolwr Gwasanaethau i Ymwelwyr yn Oriel y Parc: “Mae’n bleser ymuno â’r fenter hon, sy’n ceisio cadw’r llefydd sydd wedi bod mor bwysig i’n lles corfforol a meddyliol dros y blynyddoedd diwethaf yn lân ac yn ddiogel.

“Mae sbwriel nid yn unig yn falltod ar ein hardal leol, ond mae’n arwain at ganlyniadau difrifol i’r bywyd gwyllt sy’n byw ac yn ffynnu yn ein Parc Cenedlaethol.

“Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae o ran mynd i’r afael â’r broblem hon, a nod yr hyb newydd yw darparu’r arfau ar gyfer y gwaith.”

Cynhelir y lansiad yn Oriel y Parc, rhwng 1pm a 3pm ddydd Llun 31 Ionawr, a dim ond lle i hyn a hyn sydd ar gael. Bydd angen i unrhyw un sy’n dymuno bod yn bresennol gofrestru ymlaen llaw www.keepwalestidy.cymru/cy/events/ .

Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn cael taleb ar gyfer paned o de, coffi neu sudd oren am ddim yng Nghaffi Pilgrims.

I gael gwybod am ddigwyddiadau ac arddangosfeydd eraill sy’n digwydd yn Oriel y Parc trwy gydol y flwyddyn ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/.

 

 

 

Oriel y Parc Visitor Centre and Gallery in St Davids has joined forces with Keep Wales Tidy to create a new community litter picking hub.

Part of Keep Wales Tidy’s Caru Cymru (Love Wales) initiative, the hub will launch at the Pembrokeshire Coast National Park Authority-run site with a special community litter picking event on 31 January.

Litter has become a growing problem in all parts of Wales over the past year and has been especially noticeable in rural areas and beauty spots, which saw much heavier footfall than usual. By working with local authorities, Caru Cymru aims to inspire individuals, community groups and businesses to be proactive in looking after their local environment.

The new hub at Oriel y Parc will join a network of other hubs across the country, which lend out litter picking equipment, including litter pickers, hi-vis vests, rubbish bags and hoops, completely free.

Oriel y Parc visitor services manager Claire Bates said: “It’s a pleasure to join this initiative, which aims to keep the places that have been so important to our physical and mental wellbeing over recent years clean and safe.

“Litter is not only a blight on our local area, but has serious consequences for the wildlife that lives and thrives in our National Park.

“We all have a part to play in tackling this problem, and the new hub aims to provide just the tools for the job.”

Numbers for the launch at Oriel y Parc, which will take place between 1pm and 3pm on 31 January, are strictly limited and anyone wishing to attend will need to register in advance at www.keepwalestidy.cymru/events.

All participants will receive a voucher for a free tea, coffee or carton of juice at Pilgrims Café.

To find out about other events and exhibitions taking place at Oriel y Parc throughout the year visit www.pembrokeshirecoast.wales/oriel-y-parc.

 

Kitty Parsons

Kitty has forgotten how long she has been here now but she loves Pembrokeshire for its beauty and it's people. She spends her time searching out stories for pembrokeshire.online, swimming in the sea , drawing and painting as Snorkelfish and eating cake. She says "Pembrokeshire.online has been an opportunity to celebrate this beautiful county and its people. Keep the stories coming. We love to hear from you."

You may also like...