Welsh Beauty Spots Help Tackle Climate Change Crisis

This is a bilingual message from Pembrokeshire Coast National Park. Please scroll down for the English version.

 

Image by Ivan Tamas from Pixabay

 

Tirweddau dynodedig yn gweithio gyda’i gilydd, yn cyflawni dros Gymru

Mae Partneriaeth newydd o’r tirweddau dynodedig yng Nghymru yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r heriau allweddol sy’n gyffredin iddynt, gan gynnwys gweithredu ar yr argyfwng newid hinsawdd a’r argyfwng natur.

Mae’r Bartneriaeth – Tirweddau Cymru Landscape Wales – yn cynnwys:

  • y pump Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru:
    • Ynys Môn;
    • Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy;

o   Llŷn;

o   Gŵyr; a

o   Dyffryn Gwy

  • ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru:
    • Bannau Brycheiniog;

o   Arfordir Penfro; ac

o   Eryri

Mae Tirweddau Cymru yn hyrwyddo ffordd mwy strwythuredig o weithio ar hyd a lled Cymru ac yn cydlynu’r gwaith o gyflawni cronfa gyfalaf Llywodraeth Cymru – sef y rhaglen Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy, sydd eisoes wedi dyrannu £8 miliwn a mwy i gefnogi mwy na 90 o brosiectau ar hyd a lled Tirweddau Dynodedig Cymru.

Mae gan y tirweddau dynodedig rôl hanfodol o ran cymryd camau gweithredu ar yr argyfwng newid hinsawdd a’r argyfwng natur. Yn dilyn y Senedd yn gwneud datganiad ar yr argyfwng natur, a chyn y gynhadledd COP 26 eleni, mae tirweddau dynodedig wedi ymrwymo i weithio gyda’i gilydd i gyflawni ar y datganiad hwn.

Mewn seminar ar-lein ar 19 Hydref, bydd y Partneriaid yn cyflwyno eu gwaith o bob rhan o Gymru, sy’n cyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae’r gronfa Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy yn cefnogi prosiectau sy’n gweithio ar ddatgarboneiddio, adfer natur, twristiaeth gynaliadwy a phrosiectau sy’n cefnogi adferiad gwyrdd ar ôl Covid yn ogystal â chefnogi prosiectau cydweithredol ar raddfa fwy ar draws sawl tirwedd.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: “Mae Tirweddau Dynodedig Cymru, y staff a’r aelodau ym mhob sefydliad, yn rhan annatod o gyflawni gwelliannau ar raddfa fawr o ran cadwraeth yr ecosystem a’r cynefinoedd. Maent i raddau helaeth yn rhan o’r ateb i’r argyfwng hinsawdd.

“Drwy weithio gyda’n gilydd, mae Tirweddau Cymru a Llywodraeth Cymru yn gallu adeiladu ar arferion da ac ymdrechu tuag at gryfhau’r ymdeimlad o berthyn i’n tir a’n dyfroedd.

“Rwy’n falch o weld bod seminar gyntaf Tirweddau Cymru yn mynd rhagddi, a hyderaf y byddwch i gyd yn cael sesiwn gynhyrchiol.”

Dywedodd Chris Lindley, Cadeirydd Tirweddau Cymru Landscapes Wales:

“Mae tirweddau dynodedig Cymru yn cymryd camau gweithredu ar yr argyfyngau hinsawdd a natur. Rydym yn gweithio i leihau ein hôl troed carbon ac i gefnogi ein cymunedau i wneud yr un peth. Rydym yn gwarchod 25% o dirwedd Cymru ac felly mae gennym rôl hanfodol o ran helpu natur i adfer.“Mae ein tirweddau dynodedig yn dirwedd i bawb eu hymchwilio a’u mwynhau. Estynnwyd croeso i’r nifer uchaf erioed o bobl yn ystod y pandemig, sy’n dangos pa mor bwysig yw’r tirweddau i bawb. Rydym yn gweithio i gynnal ein cymunedau a’n busnesau, gan helpu i sicrhau y gall pawb fwynhau’r tirweddau gwerthfawr hyn heddiw ac yn y dyfodol. “

Mae’r Bartneriaeth yn ymateb i gyhoeddi adroddiad Llywodraeth Cymru: Gwerthfawr a Chydnerth. Daeth yr adroddiad hwn â’r adolygiad o dirweddau yng Nghymru i ben, gan nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a’r Parciau Cenedlaethol.

Roedd hyn yn cynnwys ymrwymiad i gefnogi sefydlu Partneriaeth Tirweddau Dynodedig – a elwir bellach yn Tirweddau Cymru Landscapes Wales – sydd hefyd yn cynnwys cynrychiolwyr Cymdeithas Genedlaethol yr Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, Llywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.          

image by Gerd Altmann from Pixabay

A new partnership involving the officially designated landscapes in Wales will work to address “key shared challenges”, including action on the climate change and nature emergencies.

The partnership – Tirweddau Cymru Landscape Wales – includes:

  • the five Areas of Outstanding Natural Beauty in Wales:

o   Anglesey;

o   Clwydian Range and Dee Valley;

o   Llŷn;

o   Gower;

o   Wye Valley

  • and the Welsh National Park Authorities:

o   Brecon Beacons ;

o   Pembrokeshire Coast;

o   Snowdonia

Tirweddau Cymru Landscape Wales is fostering a more structured way of working across Wales and coordinates delivery of a Welsh Government capital fund – the Sustainable Landscapes, Sustainable Places (SLSP) programme has already provided over £8 million to support more than 90 projects across the Welsh Designated Landscapes.

Designated landscapes have a critical role in taking action on climate and nature emergencies. Following the Senedd declaring a nature emergency, and ahead of COP26 this year, designated landscapes are committed to working together to deliver on this declaration.

At an online seminar on 19 October, partners were due to presenting their work from across Wales. The SLSP fund supports projects working on decarbonisation, nature recovery, sustainable tourism and projects supporting a green covid recovery, as well as support for larger-scale collaborative projects across multiple landscapes.

Climate Change Minister Julie James said: “The designated landscapes of Wales, the staff and members within each organisation, are integral in delivering large-scale ecosystem and habitat conservation improvements. They are very much a part of the solution to the climate emergency.

“By working together, Tirweddau Cymru and the Welsh Government are able to build on good practices and strive towards strengthening the bonds we all feel to our land and waters.”

Chris Lindley, chair of Tirweddau Cymru Landscapes Wales, said: “Wales’ designated landscapes are taking action on climate and nature emergencies. We are working to lower our carbon footprint and supporting our communities to do the same. We protect 25% of the Welsh landscape and so have a vital role in helping nature to recover.

“Our designated landscapes are for everyone to explore and enjoy. We welcomed record numbers of people during the pandemic, demonstrating the importance of landscapes for all. We are working to support our communities and businesses, helping to ensure everyone can enjoy these treasured landscapes today and in the future.”

Kitty Parsons

Kitty has forgotten how long she has been here now but she loves Pembrokeshire for its beauty and it's people. She spends her time searching out stories for pembrokeshire.online, swimming in the sea , drawing and painting as Snorkelfish and eating cake. She says "Pembrokeshire.online has been an opportunity to celebrate this beautiful county and its people. Keep the stories coming. We love to hear from you."

You may also like...