Easter Treats in the Park

Scroll down for the Welsh version

Castell Henllys Iron Age Village 

The Easter holidays will be action-packed in the Pembrokeshire Coast National Park with family fun on offer at the Park Authority’s three visitor attractions – Carew Castle and Tidal Mill, Castell Henllys Iron Age Village, and Oriel y Parc, National Park Discovery Centre, in St Davids.

Carew Castle will be holding the Easter Chick Challenge between Saturday 23 March and Sunday 14 April, with a prize for those who find the Easter chicks hidden around the Castle. The cost of taking part is £2 per child and normal admission fees apply.

Also returning are Carew’s ever-popular Horrid Histories sessions, featuring gory stories, terrible tales and revolting reports about castle life. Included free with admission, these interactive talks will take place at 11am on weekdays between 25 March and 5 April. Children must be accompanied.

The launch of the Giant Trebuchet at Carew will take place at 2.30pm on Tuesday 2 April. You can watch as the power of this siege weapon is unleashed and learn how huge stones (along with other nightmarish payloads) were flung with enough force to breach even the strongest of fortifications.

The School of Wizards and Witches Magic Academy is at 1pm on 3, 4 and 5 April, said to be “perfect for thrill-seekers aged six to adult), it’s in the Lesser Hall. Please note that the venue does not have wheelchair access. Booking is recommended and is £6 per person, as well as normal castle admission fees for all adults and children which must be paid on the day.

Full details of all Carew events: www.carewcastle.com.

Castell Henllys Iron Age Village will be running a Spring Trail from Saturday 23 March to Sunday 14 April, at a cost of £2 per child. Find the signs of spring throughout the woods, take a photo or write them down to claim your prize. Normal entry fees apply.

At Castell Henllys on 31 March there is a Warrior School with sessions running from 11am. Take up arms and find out how people in the past fought, learn to wield a sword and shield, and put it into practice against your opponent. Suitable for children aged seven and over. Additional fee applies plus normal admission.

You can discover the secrets, knowledge and wisdom of the Druids of Iron Age Britain with Druid Magic sessions on Wednesday 27 March and 3 April at 11am and 2.30pm. The sessions also include fire lighting, bread making and face painting. Suitable for children aged six and over, £7 per child plus normal admission; booking essential.

Experience the Iron Age sessions will take place daily from Monday 25 March, with the opportunity to learn about life in prehistoric times from friendly members of “the tribe”, watch a demonstration of an ancient craft or skill, and have a go with a slingshot – weather permitting. A guided tour of the village is also included in the admission fee at 11.30am and 2.30pm.

A quieter version of this session, with no loud or noisy activities or demonstrations, will take place on Sunday mornings between 10am and 12noon.

Other school holiday highlights at the Iron Age Village include Fun in the Fort on Tuesdays and Thursdays from 11am and a guided tour of the site through the medium of Welsh on Saturday 6 April.

Further information: www.castellhenllys.com.

Oriel y Parc, National Park Discovery Centre, in St Davids has crafty activities, art exhibitions and a Spring Craft Market scheduled for the holiday period.

The first craft market of 2024 will take place on Saturday 30 March between 10am and 3pm, featuring handpicked local stallholders selling handmade crafts and produce.

The challenge of the The Lost Words Sensory Trail runs at Oriel y Parc between Saturday 23 March and Sunday 7 April. The trail costs £4 per child and a small prize is included.

 Oriel y Parc’s Wednesday Club on Wednesday 27 March is aimed at budding gardeners, with a Grow Some Veg workshop. There’ll be the chance to decorate a plant pot and plant a seed to take home and grow. The workshop runs from 11am to 3pm on a drop-in basis, at a cost of £4 per child.

At the Wednesday Club on 3 April there will be a chance to create a collage of plants and animals inspired by The Lost Words book and exhibition. The workshop runs from 11am to 3pm on a drop-in basis, at a cost of £4 per child.

For those interested in art with a local flavour, Views of a visiting starling – a murmuration by Elly Morgan is interpreted in clay, paintings and sound and on display in the Tower until Sunday 14 April. Ceramics and paintings by Jane Boswell depict Turquoise Seas and Rocky Shores in the Discovery Room Windows until Tuesday 16 April. There’s also the opportunity to see Impressions of the Pembrokeshire Landscape through Barry Chantler’s photography, in the St Davids Room until Sunday 14 April.

More details: www.orielyparc.co.uk.

 Pasg ‘hWYliog’ wedi’i gynllunio yn y Parc

 Bydd gwyliau’r Pasg yn llawn cyffro ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro gyda hwyl i’r teulu i bawb yn nhri atyniad ymwelwyr Awdurdod y Parc – Castell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol, yn Nhyddewi.

Bydd Castell Caeriw yn cynnal Her Cywion Pasg rhwng dydd Sadwrn 23 Mawrth a dydd Sul 14 Ebrill, gyda gwobr flasus ar gael i’r rhai sy’n dod o hyd i’r cywion Pasg sydd wedi’u cuddio o amgylch y Castell. Y tâl yw £2 y plentyn ac mae tâl mynediad arferol yn berthnasol.

Bydd sesiynau hynod boblogaidd Caeriw, Hanesion Hyll, hefyd yn dychwelyd gyda’u straeon gwaedlyd, chwedlau ofnadwy ac adroddiadau arswydus am fywyd y Castell. Wedi’u cynnwys am ddim gyda mynediad, mae’r sgyrsiau hwyliog, rhyngweithiol hyn am ddim ar gyfer y genhedlaeth iau am 11am yn ystod yr wythnos rhwng 25 Mawrth a 5 Ebrill. Mae’n rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

I nodi bod y Pasg wedi cyrraedd, cynhelir lansiad y Fagnel Fawr yng Nghaeriw am 2.30pm ddydd Mawrth 2 Ebrill. Gwyliwch wrth i’r teclyn gwarchae dyfeisgar a phwerus hwn gael ei lansio, a dysgwch sut y cafodd cerrig enfawr eu taflu (yn ogystal â phethau annymunol eraill) gyda digon o rym i dorri’r amddiffynfeydd cryfaf.

I’r rhai sy’n chwilio am ddigwyddiad Pasg llawn hud, ymunwch ag Academi Hud yr Ysgol Dewiniaid a Gwrachod am 1pm ar 3, 4 a 5 Ebrill. Bydd y sioe ryngweithiol hon, sy’n ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n chwilio am antur o 6 oed i oedolion, i’w gweld yn lleoliad hudolus y Neuadd Leiaf. Sylwch nad oes mynediad i gadeiriau olwyn yn y lleoliad yma. Argymhellir yn gryf eich bod archebu lle. Y tâl yw £6 y pen, yn ogystal â ffioedd mynediad arferol i’r Castell i bob oedolyn a phlentyn y mae’n rhaid eu talu ar y diwrnod.

Am fanylion llawn holl ddigwyddiadau Caeriw, gan gynnwys amseroedd agor a phrisiau mynediad, ewch i www.castellcaeriw.com.

Ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys bydd cyfle i gerdded ar hyd Llwybr y Gwanwyn o ddydd Sadwrn 23 Mawrth tan ddydd Sul 14 Ebrill. Y tâl yw £2 y plentyn. Chwiliwch drwy’r coed am arwyddion y gwanwyn, tynnwch lun neu ysgrifennwch nhw i lawr i ennill gwobr. Mae tâl mynediad arferol yn berthnasol.

I’r rhai sy’n chwilio am Sul y Pasg i’w gofio, ewch i Gastell Henllys ar 31 Mawrth a chofrestrwch ar gyfer Ysgol y Rhyfelwyr – mae’r sesiynau yn dechrau am 11am. Codwch eich arfau a dysgwch sut roedd pobl yn ymladd yn y gorffennol yn Ysgol y Rhyfelwyr yn y Pentref. Dysgwch sut i drin cleddyf a tharian a defnyddiwch eich sgiliau newydd yn erbyn eich gwrthwynebydd. Yn addas ar gyfer plant 7 oed a hŷn. Mae tâl ychwanegol yn berthnasol ynghyd â thâl mynediad arferol.

Dysgwch fwy am y gorffennol i ddarganfod cyfrinachau, gwybodaeth a doethineb Derwyddon yr Oes Haearn gyda sesiynau Hud y Derwyddon ddydd Mercher 27 Mawrth a 3 Ebrill am 11am a 2.30pm. Ymunwch â sesiwn ymarferol i ddysgu rhai o’u cyfrinachau, gan gynnwys cynnau tân, gwneud bara a phaentio wynebau. Yn addas ar gyfer plant 6 oed a hŷn, y tâl yw £7 y plentyn ynghyd â thâl mynediad arferol. Mae’n hanfodol archebu lle.

Bydd sesiynau Profi’r Oes Haearn yn cael eu cynnal yn ddyddiol o ddydd Llun 25 Mawrth, gyda’r cyfle i ddysgu am fywyd yn y cyfnod cynhanesyddol yng nghwmni aelodau cyfeillgar o’r Llwyth, gwylio arddangosiad o grefft neu sgil hynafol a rhoi cynnig ar ddefnyddio catapwlt – os bydd y tywydd yn caniatáu. Mae taith dywys o’r Pentref hefyd wedi’i chynnwys yn y tâl mynediad am 11.30am a 2.30pm.

Bydd fersiwn dawelach o’r sesiwn hon, heb unrhyw weithgareddau nac arddangosiadau uchel neu swnllyd, yn cael ei chynnal ar foreau Sul rhwng 10am a  chanol dydd.

Ymysg rhai o’r uchafbwyntiau eraill yn ystod gwyliau’r ysgol ym Mhentref Oes yr Haearn bydd Hwyl yn y Gaer ar ddydd Mawrth a dydd Iau o 11am a thaith dywys yn Gymraeg drwy’r safle ddydd Sadwrn 6 Ebrill.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn www.castellhenllys.com.

Bydd gwledd hefyd yn disgwyl ymwelwyr ag Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol yn Nhyddewi’r Pasg hwn, gyda gweithgareddau crefft, arddangosfeydd celf a Marchnad Grefftau’r Gwanwyn wedi’u trefnu ar gyfer y gwyliau.

Bydd marchnad grefftau gyntaf 2024 yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 30 Mawrth rhwng 10am a 3pm. Bydd yn cynnwys stondinwyr lleol wedi’u dewis yn benodol sy’n gwerthu crefftau a chynnyrch wedi’u gwneud â llaw, mae’n gyfle perffaith i ddod o hyd i anrhegion anarferol neu eitem werthfawr i’w chadw.

Os ydych chi’n awyddus i ymgymryd â her, cofrestrwch ar gyfer Llwybr Synhwyraidd Geiriau Diflanedig a gynhelir yn Oriel y Parc rhwng dydd Sadwrn 23 Mawrth a dydd Sul 7 Ebrill. Mae’r llwybr yn costio £4 y plentyn ac mae gwobr fach yn cael ei chynnwys.

Ar gyfer egin arddwyr y genhedlaeth nesaf, mae’n werth dod i Glwb Mercher Oriel y Parc! ar ddydd Mercher 27 Mawrth, lle gall ymwelwyr ymuno â gweithdy Tyfu Llysiau ac yn yr hwyl wrth arddio. Bydd cyfle i addurno pot planhigion a phlannu hedyn i fynd adref i’w weld yn tyfu. Cynhelir y gweithdy rhwng 11am a 3pm – trefn galw heibio, a’r tâl yw £4 y plentyn.

Bydd mwy o hwyl yn y Clwb Dydd Mercher! ar 3 Ebrill pan fydd cyfle i greu collage o blanhigion ac anifeiliaid wedi’i ysbrydoli gan lyfr ac arddangosfa Geiriau Diflanedig. Cynhelir y gweithdy rhwng 11am a 3pm – trefn galw heibio, a’r tâl yw £4 y plentyn.

I’r rhai sydd â diddordeb mewn celf lleol, mae’r tŵr murmuriad – golygfeydd o ddrudwen ar ymweliad gan Elly Morgan yn cael ei ddehongli mewn clai, paentiadau a sain ac yn cael ei arddangos yn y Tŵr tan ddydd Sul 14 Ebrill. Mae cerameg a phaentiadau gan Jane Boswell yn darlunio Moroedd Glaswyrdd a Glannau Creigiog, i’w gweld yn Ffenestri’r Ystafell Ddarganfod tan ddydd Mawrth 16 Ebrill. Mae cyfle hefyd i weld Argraffiadau o Dirwedd Sir Benfro drwy ffotograffiaeth Barry Chantler, yn Ystafell Dewi Sant tan ddydd Sul 14 Ebrill.

Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau ac arddangosfeydd yn Oriel y Parc, ewch i www.orielyparc.co.uk.

 

Kitty Parsons

Kitty has forgotten how long she has been here now but she loves Pembrokeshire for its beauty and it's people. She spends her time searching out stories for pembrokeshire.online, swimming in the sea , drawing and painting as Snorkelfish and eating cake. She says "Pembrokeshire.online has been an opportunity to celebrate this beautiful county and its people. Keep the stories coming. We love to hear from you."

You may also like...