New Project for People with Learning Disabilities
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn Buddsoddi mewn Prosiect Celfyddydol Grymusol ar gyfer Unigolion ag Anableddau Dysgu yn y VC Gallery.
Pleser i’r VC Gallery yw cyhoeddi bod yr elusen wedi cael grant gan Gwobrau i Bawb y Loteri Genedlaethol i gynorthwyo’i phrosiectau celf sy’n anelu at rymuso unigolion ag anableddau dysgu. Bydd y cyllid sylweddol hwn yn galluogi’r elusen i ymestyn ei hymdrechion i feithrin creadigrwydd, cynhwysiant a datblygiad personol yn y gymuned anableddau dysgu.
Bydd y grŵp, a leolir yn ein safle yn Noc Penfro, yn defnyddio’r arian i ddarparu prosiect Celf o’r enw ‘Byd Ffantasi’ i bobl ag anableddau dysgu trwy gyfrwng tîm o bobl a chanddynt anableddau dysgu eu hunain, yn ogystal â hyrwyddwr Celf.
Erbyn hyn, mae’r elusen yn cynnal gweithgareddau celf dyddiol, i gyn-filwyr ac i’r gymuned ehangach, gan rymuso pobl i roi cynnig ar gelf a dod yn artistiaid a hyd yn oed yn hwyluswyr. Mae’r hybiau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 11-4 ac mae croeso i bawb ddod draw.
Medd Barry John, y sylfaenydd: “Rydym wrth ein bodd bod y Loteri Genedlaethol wedi cydnabod ein gwaith yn y ffordd hon. Yn awr, diolch i’r arian, bydd modd inni fwrw ymlaen â’n trydydd prosiect sy’n ymwneud yn benodol ag Anableddau Dysgu, a leolir yn Noc Penfro, gan ddwyn ynghyd sefydliadau a’n haelodau trwy gyfrwng prosiect celf. Mae hyn yn bwysig, oherwydd mae’n rhoi cyfle i unigolion ag Anableddau Dysgu eu mynegi eu hunain trwy gyfrwng celf mewn amgylchedd diogel, cynnes a chroesawgar. Hefyd, bydd yn galluogi unigolion ag Anableddau Dysgu i reoli’r prosiect eu hunain, gan annog y gwerthoedd a bennir yn Siarter Anableddau Dysgu Gorllewin Cymru.”
Bydd y prosiect ar waith bob dydd Mawrth 9.30am – 3.30pm.
I gael rhagor o wybodaeth am y VC Gallery a’r prosiect celf a ariennir, cysylltwch â’r canlynol:
Steph – Rheolwr Prosiect, steph@thevcgallery.com 01646 685688
The VC Gallery has been awarded a grant from the National Lottery Awards for All to support its arts project aimed at empowering individuals with learning disabilities. This will allow the VC Gallery to expand its efforts in fostering creativity, inclusion, and personal development within the LD community.
The group will use the money to provide an art project at its Pembroke Dock hub called Fantasy World for people with learning disabilities via a team of people with learning disabilities themselves and an art facilitator.
The charity runs daily art activities for veterans and the wider community empowering people to have a go, become artists and even facilitators. Opening times are Monday-Friday, 11am-4pm, and anyone is welcome to pop in.
Founder Barry John says: “We’re delighted that the National Lottery has recognised our work in this way. Now, thanks to the funding we will be able to press on with our third learning disability specific project based in Pembroke Dock, bringing organisations and our members together via an art project. This is important because it gives individuals with learning disabilities a chance to express themselves through art in a safe, warm, and welcoming environment. It will also allow individuals with learning disabilities to manage the project themselves.”
The project runs every Tuesday, 9.30am-3.30pm.
More information: https://thevcgallery.com/
Steph – Project Manager: steph@thevcgallery.com 01646 685688.