An Artist’s Homecoming

This article is in English and Welsh. Scroll down for the Welsh version.

Pembroke artist Fiona Miller will exhibit her work at the Joanna Field Gallery at the Torch Theatre, Milford Haven, in February.

She was born in Cwmbran but has been well-travelled from an early age. Her exhibition, Phoenix Rising, reflects the rebirth of her creative spirit and her homecoming to Wales.

It will include abstract artwork – acrylic on canvas – quirky photographic prints, writing and even some curated notes. Fiona says: “I love being guided through the inspirations, feelings and use of colours for each piece.”

She says: “Even though I was born in the Valleys, I was only there for about eight months before being moved to the Middle East (Dubai, Muscat, Oman, Lebanon) and then moving to Cyprus and finally returning to the UK in the early 1970s to start education in a more conventional and ‘normal’ way.”

She was the fourth daughter of entrepreneurial parents; her father, George McCoach, was a chartered quantity surveyor and was headhunted by a sheikh in the early 1960s to leave the UK and travel, with his young family, to the Middle East.

Fiona’s parents inspired her creativity. Self-taught, she says: “My dad was essentially a creative and skilled ‘hobby’ artist and he is probably where I get my inherited creative streak from. I sadly lost my dad when I was 15, but luckily I was also inspired by watching my mum’s exquisite interior design skills and innate ability to work with colours in an amateur way. She always knew if something wasn’t quite right visually and would move things even slightly to make it look better when she was putting our many homes together in different countries. I have inherited this ‘artist’s eye’ and will not usually settle until I have straightened that picture or rearranged the flowers to sit better in a vase.”

Fiona’s work concentrates on abstract artwork in painting and extremely detailed photographic prints; a study in juxtaposition. She recently had an exhibition in Eastbourne before moving to Wales in April last year. However, this will be her first exhibition here at the Torch and in Wales.

“It feels incredibly scary, challenging and exciting in equal measure. It is so wonderfully heartwarming and an honour to be given this opportunity in a community I am only now getting to know.”

Fiona is setting up art workshops from the beginning of February and will be taking abstract acrylic art to everyone who wants to give it a go.

“I will be launching this as soon as I can after setting up the Torch exhibition. My hope is that I can establish myself, as I was in Eastbourne, as a facilitator of art to anyone and everyone who wants to get involved. So often watercolour as an art medium is offered and I want to spread the acrylic word. Acrylic painting is so much fun and very forgiving – a great opportunity to have some fun with art.”

Fiona is a qualified Art as a Person-Centred Therapy practitioner and an NLP practitioner.

Further information: https://fionamillerart.com/.

Phoenix Rising: Saturday 3 February until Thursday 28 February during Torch Theatre opening times. Further information www.torchtheatre.co.uk.

 

‘Creu gwaith celf unigryw yw pwrpas fy mywyd’

–  Fiona Miller sy’n arddangos ei gwaith yn y Torch

 

Bydd yr artist o Benfro, Fiona Miller, yn arddangos ei gwaith yn Oriel Joanna Field yn Theatr y Torch fis Chwefror eleni. Wedi’i geni yng Nghwmbrân, ond wedi teithio’n helaeth ers yr oedd yn fabi, mae arddangosfa Fiona o’r enw ‘Phoenix Rising’ yn aileni ei hysbryd creadigol a’i dychweliad adref i Gymru.

Bydd ymwelwyr i’r arddangosfa yn cael gwledd weledol gyda gwaith celf haniaethol – acrylig ar gynfas – printiau ffotograffig hynod, ysgrifennu a hyd yn oed rhai nodiadau wedi’u curadu.

Dywedodd Fiona – “Rwyf wrth fy modd yn cael fy nhywys drwy’r ysbrydoliaethau, y teimladau a’r defnydd o liwiau ar gyfer pob darn sydd wedi ysbrydoli’r artist i greu!”

​Mae Fiona wedi cael bywyd prysur ac anarferol, gyda llawer o brofiadau o wahanol rannau o’r byd, a’r cyfan wedi ei gwneud hi’r artist creadigol y mae hi heddiw.

Ychwanegodd: “Er i mi gael fy ngeni yn y Cymoedd, dim ond am ryw wyth mis y bûm yno cyn symud i’r Dwyrain Canol (Dubai, Muscat, Oman, Libanus) ac yna symud i Gyprus ac o’r diwedd dychwelyd i’r DU yn y 70au cynnar i ddechrau addysg mewn ffordd fwy confensiynol a ‘normal’.”

​ Yn bedwerydd merch i rieni entrepreneuraidd; roedd ei thad (George McCoach) yn syrfëwr meintiau siartredig a chafodd ei ‘ddewis’ gan Sheikh yn y 60au cynnar i adael y DU a theithio, gyda’i deulu ifanc, i’r anhysbys – y Dwyrain Canol!

Ysbrydolodd rhieni Fiona ei chreadigrwydd.

​ Dywedodd: “Roedd fy nhad yn artist ‘hobi’ creadigol a medrus yn ei hanfod ac mae’n debyg mai ef sydd wedi rhoi’r elfen greadigol i mi. Yn anffodus, collais fy nhad pan oeddwn yn 15 mlwydd oed, ond yn ffodus, cefais fy ysbrydoli hefyd gan wylio sgiliau dylunio mewnol cain fy mam a’i gallu cynhenid ​​i weithio gyda lliwiau, mewn ffordd amatur. Roedd hi bob amser yn gwybod os nad oedd rhywbeth yn iawn yn weledol, a byddai’n symud pethau hyd yn oed ychydig i wneud iddo edrych yn well pan oedd hi’n rhoi ein cartrefi niferus at ei gilydd mewn gwahanol wledydd. Rwyf wedi etifeddu’r ‘llygad artist’ hwn ac ni fyddaf fel arfer yn setlo nes i mi sythu’r llun hwnnw neu aildrefnu’r blodau i eistedd yn well mewn fâs!”

Yn hunanddysgedig, ffocysa gwaith Fiona ar waith celf haniaethol mewn peintio a phrintiau ffotograffig hynod fanwl; astudiaeth mewn cyfosodiad. Yn ddiweddar cafodd arddangosfa yn Eastbourne, dwyrain Sussex, cyn symud i Gymru ym mis Ebrill y llynedd. Er hynny, dyma fydd ei harddangosfa gyntaf yma yn y Torch ac yng Nghymru.

“Mae’n teimlo’n hynod o frawychus, heriol a chyffrous i’r un graddau. Mae’n hynod o galonogol ac yn anrhydedd i gael y cyfle hwn mewn cymuned dw i ond nawr yn dod i’w hadnabod.”

Mae Fiona yn sefydlu gweithdai celf o ddechrau mis Chwefror a bydd yn mynd â chelf acrylig haniaethol i bawb sydd am roi cynnig arni.

“Byddaf yn lansio hwn cyn gynted ag y gallaf ar ôl sefydlu arddangosfa Torch. Gobeithiaf y gallaf sefydlu fy hun, fel yr oeddwn yn Eastbourne, fel hwylusydd celf i unrhyw un a phawb sydd am gymryd rhan. Mor aml cynigir dyfrlliw fel cyfrwng celf a dw i am ledaenu’r gair acrylig. Mae paentio acrylig yn gymaint o hwyl ac yn faddeugar iawn – cyfle gwych i gael ychydig o hwyl gyda chelf!”.

Mae Fiona yn APCCA cymwys – Ymarferydd Celf fel Therapi Person-Ganolog ac Ymarferydd NLP – Rhaglennu Niwroieithyddol.

Am fwy o wybodaeth ewch i https://fionamillerart.com/. Bydd Phoenix Rising yn agor ar ddydd Sadwrn 3 Chwefror tan ddydd Iau 28 Chwefror yn ystod oriau agor y Theatr. Am fwy o wybodaeth ewch i torchtheatre.co.uk.

 

 

 

 

Kitty Parsons

Kitty has forgotten how long she has been here now but she loves Pembrokeshire for its beauty and it's people. She spends her time searching out stories for pembrokeshire.online, swimming in the sea , drawing and painting as Snorkelfish and eating cake. She says "Pembrokeshire.online has been an opportunity to celebrate this beautiful county and its people. Keep the stories coming. We love to hear from you."

You may also like...