Sex, Marriage and Decadence Dissected

Please scroll down for the English version of this article

 

Cyhoeddi Private Lives fel ymddangosiad cyfarwyddol cyntaf yr hydref gan Gyfarwyddwr Artistig newydd Theatr y Torch – gydag addewid o chwerthin ochr yn ochr ag archwiliad pryfoclyd o’r gwrth-arwr

 

Mae Theatr y Torch Aberdaugleddau yn paratoi ar gyfer chwistrelliad o hudoliaeth y 1930au yr hydref hwn diolch i ddewis y Cyfarwyddwr Artistig newydd Chelsey Gillard o’i chynhyrchiad cyntaf ers olynu Peter Doran. Yn awyddus i ddarparu noson hudolus o ddoniol i gynulleidfaoedd i godi calonnau pawb yn ystod dyddiau tywyll mis Hydref, mae Gillard wedi gadael ei genre arferol o ysgrifennu newydd i chwistrellu tro modern i gampwaith comedi Noël Coward, Private Lives. Mae’r comedi tywyll ffrwydrol yn addo noson allan hynod ddoniol i gynulleidfaoedd gyda’i dadansoddiad ffraeth bythol o ryw, priodas a chonfensiwn cymdeithasol gyda rhai awgrymiadau rhy gyfarwydd o ymddygiad drwg.

Nid yn unig y mae Private Lives yn nodi ymddangosiad cyntaf Chelsey fel cyfarwyddwr ar gyfer y Torch, ond adlewyrcha hefyd cyfeiriad eang, deniadol a modern y mae’n awyddus i’w cyflwyno i’w rôl newydd.

Meddai Chelsey: “Rwyf wedi edmygu gwaith Peter Doran a thîm y Torch ers hir amser. Mae’n fraint i mi barhau i chwilio am ffyrdd newydd o arloesi ac estyn allan i gynulleidfaoedd, cyfranogwyr ac artistiaid ar draws Aberdaugleddau, Sir Benfro a thu hwnt. Bydd ein safbwynt modern ar Private Lives, rwy’n gobeithio, yn apelio at ystod eang o bobl – efallai y bydd fy nghydweithwyr yn y diwydiant wedi’u synnu gan fy newis o ddrama ac edrychaf ymlaen at rannu’r cynhyrchiad cyffrous a doniol hwn ochr yn ochr â thîm gwych o actorion, dylunwyr a chriw!

“Ein bwriad yw cynnal noson allan wych i bobl – rydym hyd yn oed yn cynnal ciniawau thema gyda chaneuon byw o’r oes i’r rhai sy’n awyddus i gael ychydig o hudoliaeth ychwanegol. Byddem wrth ein bodd yn gweld cynulleidfaoedd wedi’u gwisgo yng ngwisgoedd y 1930au yn barod i sipian eu Martini a chael eu trochi yn set art deco ysblennydd y Dylunydd Kevin Jenkins – mae’n mynd i syfrdanu cynulleidfaoedd a’n cludo oll i gyfnod hynod ddirywiedig – dihangfa berffaith o ddiwrnod tywyll yr Hydref!”

Yn dilyn campau cwpl sydd wedi ysgaru sy’n mynd i ystafelloedd gwestai cyfagos tra ar fis mêl gyda’u partneriaid newydd, mae’r comedi hoffus hwn o foesau yn dal mor berthnasol, 100 mlynedd ar ôl iddo gael ei ysgrifennu gyntaf. Er hynny, gall ymddangosiadau fod yn dwyllodrus ac mae llawer yn digwydd o dan yr wyneb sy’n tanio sgwrs ddiddorol am ddiwylliant heddiw a’r safonau ymddygiad a osodwn sydd weithiau’n rhagfarnllyd.

Rheda Private Lives am dair wythnos yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau, gan agor ddydd Mercher 4ydd Hydref (noson y wasg, dydd Iau 5ed) tan ddydd Sadwrn 21 Hydref ac mae’n falch o fod yn rhan o Ŵyl COWARD125 gan Sefydliad Coward, sef dathliad dwy flynedd o fywyd rhyfeddol Coward yn y cyfnod cyn ei ben-blwydd yn 125 yn 2024.

I archebu tocynnau, ewch i Swyddfa Docynnau Theatr y Torch https://www.torchtheatre.co.uk/private-lives/ neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar01646 695267.

 

 

Milford Haven’s Torch Theatre is preparing for an injection of 1930s glamour this autumn thanks to new artistic director Chelsey Gillard’s choice of first production.


She’s giving a modern twist to Noël Coward’s comedic masterpiece Private Lives with its timelessly witty dissection of sex, marriage and social convention. 
 

 

Not only does Private Lives mark Chelsey’s directorial debut, but it also reflects the broad-appeal, engaging and modern direction she is keen to bring in her new role.

   

Chelsey said: “Our modern take on Private Lives will, I hope, appeal to a wide range of people – I’m looking forward to sharing this excitingly saucy and funny production alongside a terrific team of actors, designers and crew.  

 

“Our aim is to give people a great night out – we are even hosting themed lunches with live songs from the era for those keen for some added glamour. We would love to see audiences dressed up in 1930s costume ready to sip their martini and be immersed in designer Kevin Jenkins’ spectacular art deco set. It’s going to wow audiences and transport us all to a most decadent era – perfect escapism from a gloomy autumn day.”  

 

Following the antics of a divorced couple who end up in neighbouring hotel rooms while on honeymoon with their new partners, this much-loved comedy of manners is still relevant, 100 years after it was first written.


Private Lives has a three-week run at Torch Theatre, Milford Haven, opening on Wednesday 4
 October (press night Thursday 5 October) until Saturday 21 October and is part of the Coward Foundation’s COWARD125 Festival, a two-year celebration of Noël Coward’s extraordinary life in the lead-up to his 125th birthday in 2024.   

 

To book tickets, visit the Torch Theatre Box Office https://www.torchtheatre.co.uk/private-lives/ or call 01646 695267. 

Kitty Parsons

Kitty has forgotten how long she has been here now but she loves Pembrokeshire for its beauty and it's people. She spends her time searching out stories for pembrokeshire.online, swimming in the sea , drawing and painting as Snorkelfish and eating cake. She says "Pembrokeshire.online has been an opportunity to celebrate this beautiful county and its people. Keep the stories coming. We love to hear from you."

You may also like...