Theatre Offers Summer School Fun

Byddwch yn greadigol gyda Theatr y Torch yr haf hwn

O ysgrifennu sgriptiau i berfformio a dysgu sgiliau creu theatr – mae Theatr y Torch, Aberdaugleddau yn cynnig hyn oll a mwy yr haf hwn gyda’n Hysgolion Haf blynyddol enwog. Mae’r ysgolion ar gyfer pobl o bob oed a byddant yn cael eu harwain gan dîm proffesiynol mewnol Theatr y Torch.

Mae dau ddigwyddiad i ddewis ohonyn nhw, sef Tall Tales (saith i 11 oed) a Hear Us Roar (11 i 18 oed) gyda’r holl weithgareddau hyn yn cael eu cefnogi gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ingles a Phorladd Aberdaugleddau.

Tall Tales yw digwyddiad cyntaf y rhaglen Ysgolion Haf a bydd yn digwydd bob dydd o ddydd Llun 31 Gorffennaf hyd at ddydd Gwener 4 Awst. Cynhelir y sesiynau rhwng 10am a 3pm a bydd y cyfranogwyr yn creu eu stori dylwyth teg eu hunain yn llawn anturiaethau gwych a chwestau hudolus.

Yr ail Ysgol Haf yw Hear Us Roar a bydd yn cael ei chynnal o ddydd Llun 7 Awst i ddydd Gwener 11 Awst gyda sesiynau dyddiol yn dechrau am 10am tan 4pm. Mewn dim ond wythnos, bydd y bobl ifanc yn creu drama fer yn archwilio’r pethau sy’n bwysig iddyn nhw – yn cynnwys gwaith byrfyfyr, ysgrifennu sgriptiau, a dyfeisio technegau.

Nid ydym wedi anghofio am y rhai 18+ oed. Am y tro cyntaf erioed, rydym yn cynnig ysgol haf nos i oedolion. Bydd Show Off! yn rhedeg o ddydd Llun 21 Awst i ddydd Sadwrn 26 Awst, gyda sesiynau o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 6pm a 9pm, a dydd Sadwrn am y diwrnod cyfan o 10am i 9pm (gan gynnwys perfformiad arddangos yn ein gofod stiwdio). Treuliwch wythnos o sesiynau min nos yn datblygu eich sgiliau perfformio gyda thiwtoriaid arbenigol.

Mae’r holl ddarpariaethau hyn yn cynnwys rhannu ar ddiwedd yr wythnos heb unrhyw gost ychwanegol, lle gall hyd at bedwar gwestai ddod i wylio.

Tim Howe yw Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned ac mae’n edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu pobl i’r Ysgolion Haf. Dywedodd Tim:

“Dewch draw i fod yn greadigol, ac yn fwy na dim i gael hwyl a gwneud ffrindiau newydd! Efallai nad ydych chi am chwennych amlygrwydd ac ymddangos ar lwyfan, efallai y byddai’n well gennych fod y tu ôl i’r llenni, yn ysgrifennu ac yn cyfarwyddo. Gallwn ddarparu ar gyfer pob gallu, ac rydym yn cynnig y croeso cynhesaf i bawb gyda’n sesiynau cynhwysol a hygyrch.”

Ychwanegodd Tim: “Rydym yn ymwybodol bod arian yn dynn ac rydym yn fwy na pharod i drafod cynlluniau talu gyda chi fel y gallwch gymryd rhan gyda ni, wedi’r cyfan, mae theatr i bawb.”

I archebu eich lle ar ein Hysgolion Haf, cysylltwch â Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar (01646) 695267.

From scriptwriting to performing and learning theatre-making skills – the Torch Theatre, Milford Haven, is offering all this and more this summer with its annual Summer Schools. The schools are for people of all ages and will be led by the Torch Theatre’s in-house professional team.

There are two events to choose from Tall Tales (age seven to 11) and Hear Us Roar (11 to 18) with all these activities supported by the Ingles Charitable Trust and the Port of Milford Haven.

Tall Tales is the first event and will take place daily from Monday 31 July through to Friday 4 August. The sessions run from 10am to 3pm and will see participants create their own fairy tale filled with fantastic adventures and magical quests.

Hear Us Roar and will be held from Monday 7 August to Friday 11 August with daily sessions starting at 10am until 4pm. In just a week, the young people will create a short play exploring the things that matter to them – involving improvisation, scriptwriting, and devising techniques.

The Torch says: “We haven’t forgotten about those aged 18-plus. For the first time ever, we are offering an adult’s evening summer school. Show Off! runs Monday 21 August to Saturday 26 August, with sessions Monday to Friday running from 6pm to 9pm, and Saturday running all day from 10am to 9pm (including a showcase performance in our studio space). Spend a week of evening sessions developing your skills in performing with expert tutors.

“All these provisions include a sharing at the end of the week at no additional cost, where up to four guests can come to watch.”

Tim Howe is the senior manager for youth and community and is looking forward to welcoming people to the Summer Schools.

He says: “Come along and be creative and, most of all, have fun and make new friends. You might not want to be in the limelight and appear on stage, you may prefer to be behind the scenes, writing and directing. We can cater for all abilities, and we offer the warmest of welcomes to all with our inclusive and accessible sessions.

“We are aware that finances are tight and we are more than happy to discuss payment plans with you so that you can take part with us – after all, theatre is for everyone.”

To book a Summer Schools place, contact the Torch Theatre on 01646 695267.

Kitty Parsons

Kitty has forgotten how long she has been here now but she loves Pembrokeshire for its beauty and it's people. She spends her time searching out stories for pembrokeshire.online, swimming in the sea , drawing and painting as Snorkelfish and eating cake. She says "Pembrokeshire.online has been an opportunity to celebrate this beautiful county and its people. Keep the stories coming. We love to hear from you."

You may also like...