New Campaign is All About Birds and Bees

The following article is in Welsh and English. Scroll down for the English version.

Image by Pieter Zeeman at Pixabay

 

Ymgyrch codi arian elusennol yn achub cynefinoedd Sir Benfro

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn lansio ymgyrch newydd er mwyn gwella cynefinoedd ar draws y Parc Cenedlaethol ar gyfer yr amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt sy’n galw’r rhan yma o Gymru yn gartref.

Yn dilyn llwyddiant ymgyrchoedd codi arian yn y gorffennol, fel Gwyllt am Goetiroedd a Creu Mwy o Ddolydd, mae’r Ymddiriedolaeth yn gobeithio y bydd ei hymgyrch newydd “Yr Adar a’r Gwenyn” yn annog mwy o bobl i feddwl am y rhywogaethau sy’n elwa o’r gwaith o adfer a gwella cynefinoedd.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Bioamrywiaeth nodedig y rhanbarth sy’n gyfrifol am ddarparu rhai o olygfeydd a synau eiconig ein Parc Cenedlaethol. O’i harfordir garw i dirweddau hynafol y Preseli a noddfa gudd Aber Daugleddau, mae Sir Benfro yn cael ei chydnabod fel un o’r rhannau ecolegol gyfoethocaf a mwyaf amrywiol o Gymru, ac yn ardal o bwysigrwydd rhyngwladol oherwydd ei chynefinoedd arbennig a’r rhywogaethau prin sy’n byw yno.

“Fodd bynnag, mae ein hamgylchedd yn fregus, yn dirywio ac angen ein help ni yn fwy nag erioed.” Er bod cynefinoedd arfordirol blodeuog Sir Benfro yn rhoi noddfa i’r boblogaeth olaf o’r Gardwenynen Feinlais yn y DU, mae dyfodol llawer o rywogaethau eraill yn y fantol. Un o’r rhywogaethau hyn yw’r bras melyn. Er bod poblogaeth y bras melyn wedi gostwng 30% ers 1994, o ganlyniad i effaith colli cynefinoedd a newidiadau mewn arferion ffermio, mae eu dirywiad yn Sir Benfro dros y 40 mlynedd ddiwethaf yn nes at 90%.

Eglurodd Katie Macro: “Does dim angen cyfraniadau sylweddol i wneud gwahaniaeth i’n bywyd gwyllt brodorol. Er hynny, byddai £50 yn talu am gadwyn o ferlod Mynydd Cymreig i bori tir dolydd am fis, gan wella cynefinoedd i gacwn, gwenyn unig a brain coesgoch, a byddai £10 yn darparu digon o hadau dolydd i hau dros 100 metr sgwâr ar gyfer pryfed peillio ac adar fel yr ehedydd.

“Os ydych chi’n galw Sir Benfro yn gartref, neu’n gartref oddi cartref, mae angen eich help chi i ddiogelu ein Parc Cenedlaethol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

I gyfrannu at yr ymgyrch Yr Adar a’r Gwenyn, ewch i https://pembrokeshirecoast.enthuse.com/TheBirdsandtheBees.

Mae rhagor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, a’r gwaith sy’n cael ei wneud i warchod y tirweddau trawiadol a’u bywyd gwyllt, ar gael yn https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.

Pembrokeshire Coast Charitable Trust is launching a campaign to improve habitats across the National Park for the incredible array of wildlife that call this part of Wales home.

Following on from the success of previous fundraising campaigns, such as Wild About Woodlands and Make More Meadows, the Trust hopes that The Birds and the Bees campaign will encourage more people to think about the many species that benefit from habitat restoration and improvement.

The director of Pembrokeshire Coast Charitable Trust, Katie Macro, said: “Many of the iconic sights and sounds of our National Park owe their magnificence to the region’s remarkable biodiversity. From its rugged coastline to the ancient landscapes of the Preselis and the hidden sanctuary of the Daugleddau Estuary, Pembrokeshire has long been recognised as one of the ecologically richest and most diverse parts of Wales, and a place of international importance for its high-quality habitats and rare species.

“Despite this, however, our environment is fragile, in decline and needs our help more than ever.”

While Pembrokeshire’s flower-rich coastal habitats have provided sanctuary to one of the UK’s last surviving populations of shrill carder bees, there are many species whose prospects aren’t as bright. One example is the yellowhammer. While populations across Wales have decreased by 30 per cent since 1994, as a result of habitat loss and changes in farming practices, their decline in Pembrokeshire over the past 40 years is nearer 90 per cent.

Macro said: “Donations don’t need to be enormous to make a difference to our native wildlife. While £50 would pay for a group of Welsh mountain ponies to graze a meadow for a month, improving habitats for bumble bees, solitary bees and chough, £10 would provide enough local meadow seed to sow across 100 square metres, providing a welcome boost to pollinators and birds such as the skylark.

“Whether Pembrokeshire is your home, or your home from home, your help is needed to protect our National Park for future generations.”

To donate, visit https://pembrokeshirecoast.enthuse.com/TheBirdsandtheBees.

Further information about the Pembrokeshire Coast Charitable Trust and the work being done to protect these spectacular landscapes and their wildlife can be found at https://pembrokeshirecoasttrust.wales/.

Kitty Parsons

Kitty has forgotten how long she has been here now but she loves Pembrokeshire for its beauty and it's people. She spends her time searching out stories for pembrokeshire.online, swimming in the sea , drawing and painting as Snorkelfish and eating cake. She says "Pembrokeshire.online has been an opportunity to celebrate this beautiful county and its people. Keep the stories coming. We love to hear from you."

You may also like...