Archaeology Day’s 20th Anniversary

This article is in Welsh and English. Please scroll down for the English Version.

 

Tocynnau ar gyfer yr 20fed Diwrnod Archaeoleg blynyddol ar werth nawr

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn falch o gyhoeddi bod y Diwrnod Archaeoleg blynyddol yn cael ei gynnal unwaith eto mewn partneriaeth â PLANED.

Dyma’r 20fed tro i’r digwyddiad blynyddol gael ei gynnal, a bydd hynny’n digwydd yng Ngholeg Sir Benfro ddydd Sadwrn 5 Tachwedd rhwng 10am a 4pm.

Bydd pobl yn gallu dod draw yno, roedd y digwyddiad wedi cael ei gynnal ar-lein y ddwy flynedd flaenorol oherwydd COVID-19. A bydd dewis hefyd i archebu tocynnau i weld y digwyddiad yn fyw ar-lein.

Dywedodd Tomos Jones, Archaeolegydd Cymunedol Awdurdod Parc Cenedlaethol, a fydd yn cyflwyno’r digwyddiad ochr yn ochr â Chydlynydd Diwylliannol PLANED, Stuart Berry: “Eleni, mae’r Diwrnod Archaeoleg yn argoeli i fod yn ddathliad addas arall o’r amrywiaeth eang o ddarganfyddiadau newydd a wnaed yn Sir Benfro yn ddiweddar.

“Rydyn ni’n falch iawn o allu cynnig y dewis i bobl ddod i’r Diwrnod Archaeoleg yn bersonol unwaith eto, ond rydyn ni’n ymwybodol na fydd rhai pobl yn gallu dod draw neu y byddai’n well ganddyn nhw wylio’r digwyddiad ar-lein.”

Dyma rai siaradwyr a phynciau a drafodir yn y digwyddiad eleni:

  • Dr Julian Whitewright ar archaeoleg forol ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
  • Fran Murphy ar y gwaith cloddio diweddar yn nghaer bentir Porth-y-Rhaw, ger Solfach.
  • Luke Jenkins ar ddarganfyddiadau yn sgil gwaith cloddio’n gysylltiedig â datblygiad yr A40, gan gynnwys tirweddau defodol Neolithig ac Oes Efydd nad oedd yn hysbys o’r blaen.
  • Dr Rob Dennis ar ddarganfyddiadau’r gwaith cloddio diweddar yng Ngheudwll Wogan, o dan Gastell Penfro.
  • Tomos Jones ar brosiect gwirfoddol sy’n monitro henebion cofrestredig hygyrch ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

£10 yw pris tocynnau i fynychu’n bersonol, ac maent yn cynnwys te a choffi. Gofynnir i bawb sy’n mynychu i ddod â phecyn bwyd gyda nhw. I archebu eich lle, ewch i: https://pembrokeshirecoast.bookinglive.com/book/add/p/133?l=cy_GB.

£5 yw pris tocynnau i wylio ar-lein. I archebu eich lle, ewch i: https://pembrokeshirecoast.bookinglive.com/book/add/p/145?l=cy_GB.

I gael gwybod rhagor am archaeoleg ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac i danysgrifio i’n Rhestr Bostio Archaeoleg ewch i: https://www.arfordirpenfro.cymru/y-parc-cenedlaethol/archaeoleg/.

I weld cynnwys o ddigwyddiadau blaenorol mewn Diwrnodau Archaeoleg, ewch i’r Sianel YouTube: https://www.youtube.com/c/DiwrnodArchaeolegArchaeologyDay

Ymysg y pynciau a fydd yn cael eu trafod ar Ddiwrnod Archaeoleg 2022 bydd y gwaith cloddio diweddar yng nghaer bentir Porth-y-Rhaw, ger Solfach a Ceudwll Wogan o dan Gastell Penfro.

 

Pembrokeshire Coast National Park Authority has announced the return of the annual Archaeology Day, which will once again be held in partnership with PLANED.

This year’s event will be the 20th and will be held at Pembrokeshire College on Saturday 5 November from 10am until 4pm.

People will be able to attend in person, with the event having been held virtually for the previous two years due to covid. There will still be an option to book tickets to view the event live online.

National Park Authority community archaeologist Tomos Jones, who will host the event alongside PLANED’s cultural co-ordinator, Stuart Berry, said: “This year’s Archaeology Day promises to be another fitting celebration of the wide range of new discoveries made in Pembrokeshire in recent times.

“We are delighted to be able to offer people the option of attending the Archaeology Day in person once again but are mindful that some people may not be able to attend in person or would prefer to view the event online.”

The speakers and subjects covered at this year’s event will include:

  • Dr Julian Whitewright on marine archaeology in the Pembrokeshire Coast National Park.
  • Fran Murphy on the recent excavations at Porth-y-Rhaw promontory fort, near Solva.
  • Luke Jenkins on discoveries as a result of excavations associated with the A40 development, including previously unknown Neolithic and Bronze Age ritual landscapes.
  • Dr Rob Dennis on the discoveries from the recent excavation at Wogan’s Cavern, beneath Pembroke Castle.
  • Tomos Jones on a volunteer project monitoring accessible scheduled monuments in the Pembrokeshire Coast National Park.

Tickets to attend in person are £10 and include tea and coffee. Attendees are asked to bring a packed lunch with them. To book visit https://pembrokeshirecoast.bookinglive.com/book/add/p/133.

Tickets to view online are £5. To book visit https://pembrokeshirecoast.bookinglive.com/book/add/p/145.

To find out more about archaeology in the Pembrokeshire Coast National Park, and subscribe to the Archaeology Mailing List visit https://www.pembrokeshirecoast.wales/archaeology/

To view content from previous Archaeology Day events visit the YouTube Channel: https://www.youtube.com/c/DiwrnodArchaeolegArchaeologyDay

Kitty Parsons

Kitty has forgotten how long she has been here now but she loves Pembrokeshire for its beauty and it's people. She spends her time searching out stories for pembrokeshire.online, swimming in the sea , drawing and painting as Snorkelfish and eating cake. She says "Pembrokeshire.online has been an opportunity to celebrate this beautiful county and its people. Keep the stories coming. We love to hear from you."

You may also like...