Tourism Businesses Urged to Plan for 2022 – and New Award for Coast to Coast

This is a bilingual message from Coast To Coast magazine. Please scroll down for the English version.

Dyma’ch cyfle i hysbysebu yn Coast to Coast

Wrth i fusnesau lleol ddechrau cynllunio ar gyfer tymor twristiaeth 2022, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro unwaith eto yn cynig cyfle i chi hysbysebu yn ei gylchgrawn llwyddiannus, Coast to Coast.

Bydd Awdurdod y Parc yn cyhoeddi rhifyn 40 o’r cylchgrawn poblogaidd hwn mewn pryd ar gyfer Pasg 2022, gan gynnig cyfle i fusnesau hyrwyddo eu hunain i dros filiwn o ddarllenwyr yn ystod tymor yr haf. Mae’r cylchgrawn hefyd ar gael fel ap ac ar wefan yr Awdurdod, sy’n darparu cyfleoedd hyrwyddo mewn print ac yn ddigidol.

Mae Coast to Coast yn cael ei ddosbarthu i dros 500 o siopau ledled y sir yn ystod y prif dymor, gan roi sylw gwych i fusnesau sy’n denu pobl i’r awyr agored, yn gwerthu rhywbeth blasus ac unigryw neu’n hyrwyddo menter hirdymor sydd angen hwb,

Dywedodd Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata’r Awdurdod, Marie Edwards: “Mae’r cyhoeddiad rhad ac am ddim hwn yn adnodd amhrisiadwy i ymwelwyr sy’n cynnig llu o wybodaeth a syniadau am fwynhau a chael y gorau o’r hyn sydd ar gael ar draws y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys teithiau cerdded, traethau a diwrnodau llawn hwyl i’r teulu. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ymarferol fel mapiau, llwybrau bysiau a thablau’r llanw.

“Mae llawer o gyngor hefyd ar sut mae cael y gorau o ddiwylliant, treftadaeth a chyfleoedd awyr agored anhygoel y Parc, ynghyd â Gweithgareddau a Digwyddiadau y gall ymwelwyr a phobl leol eu mwynhau.”

Dechrau mis Rhagfyr 2021 yw’r dyddiad cau ar gyfer hysbysebu yn y cyhoeddiad y flwyddyn nesaf, felly rydym yn argymell bod busnesau yn cynllunio ymlaen llaw i archebu lle yn y cyhoeddiad poblogaidd hwn.

Mae pecynnau hysbysebu Coast to Coast ar gael i’w lawrlwytho ar www.pembrokeshirecoast.wales, neu os hoffech  gael pecyn trwy e-bost, cysylltwch â communications@pembrokeshirecoast.org.uk neu ffoniwch 01646 624823.

Diwedd

Coast to Coast yn cipio’r wobr aur mewn seremoni wobrwyo genedlaethol

 

Roedd Coast to Coast, papur newydd i ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn un o enillwyr aur Gwobrau PRide CIPR Cymru Wales yn ddiweddar.

Enillodd y papur newydd blynyddol, sy’n rhad ac am ddim i ymwelwyr, y wobr ar gyfer Cyhoeddiad Gorau mewn seremoni ar-lein a gynhaliwyd gan y darlledwr Jason Mohammad. Nid yw’r cyhoeddiad wedi ennill y wobr ers 2014.

Dywedodd Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata Awdurdod  Parc Cenedlaethol, Marie Edwards: “Rydyn ni wrth ein boddau bod Coast to Coast wedi cael ei gydnabod unwaith eto ochr yn ochr â chymaint o ymgeiswyr gwych eraill ac enillwyr o’r sectorau preifat a chyhoeddus.

“Mae cannoedd o filoedd o gopïau yn cael eu darllen ledled Sir Benfro a thu hwnt bob blwyddyn, gan helpu pobl i ddysgu mwy am y Parc Cenedlaethol a mwynhau eu hymweliad.

“Hoffem ddiolch i’r holl ddarllenwyr, y mannau gwerthu a’r hysbysebwyr am eu cefnogaeth barhaus wrth i ni baratoi i gyhoeddi’r 40fed rhifyn yn 2022.”

Dywedodd y Cynghorydd Paul Harries, Cadeirydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Dylai’r tîm fod yn falch iawn eu bod wedi cyrraedd y rhestr fer yn y gwobrau arbennig hyn, sy’n dilyn blynyddoedd hynod lwyddiannus, a hynny er gwaetha’r heriau a gyflwynwyd gan y pandemig. Mae hyn yn pwysleisio ansawdd uchel y swyddogion sydd gennym yn gweithio i’r Awdurdod.

“Mae’r tîm yn gweithio’n ddiflino i hyrwyddo’r Parc Cenedlaethol a’r Awdurdod mewn cynifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys y cylchgrawn poblogaidd Coast to Coast, sy’n parhau i fynd o nerth i nerth.”

I ddarllen rhifyn eleni ar-lein neu i gael rhagor o wybodaeth am hysbysebu yn fersiwn 2022 Coast to Coast ewch i  www.arfordirpenfro.cymru/cynllunio-eich-ymweliad/coast-to-coast/.

Fishguard Bay

As local businesses begin to plan ahead for the 2022 tourism season, the Pembrokeshire Coast National Park Authority is once again opening the books for advertising in its award-winning magazine, Coast to Coast.

The Park Authority will be publishing its 40th edition of the popular publication in time for Easter 2022, offering the opportunity for businesses to promote themselves to a readership of one-million-plus over the summer season. The magazine is also available as an app and on the Authority’s website, providing print and digital promotion.

Whether businesses are engaging people in the outdoors, selling something delicious or promoting a long-standing venture that needs a bit of a boost, Coast to Coast is distributed to more than 500 outlets across the county during the main season, offering fantastic coverage throughout Pembrokeshire.

The Authority’s communications and marketing manager, Marie Edwards, said: “This free publication is an invaluable resource for visitors offering a host of information and ideas about enjoying and accessing the very best on offer across the National Park, including walks, beaches and fun family days out. It also includes practical information such as maps, bus routes and tide tables.

“There’s also lots of advice on how to get the most out of the culture, heritage and fantastic outdoor opportunities in the Park, along with Activities and Events for visitors and local residents to enjoy and experience.

“The deadline for advertising in next year’s publication falls early in December 2021 so we advise businesses to plan ahead and book space in this popular publication.”

Coast to Coast advertising packs are now available to download from www.pembrokeshirecoast.wales, or if you would like a pack emailed to you, contact communications@pembrokeshirecoast.org.uk or call 01646 624823.

 

Coast to Coast grabs gold at national award ceremony

 Pembrokeshire Coast National Park Authority’s long-running visitor newspaper Coast to Coast was one of the gold winners at the recent CIPR Cymru Wales PRide Awards.

The free annual visitor newspaper picked up the award for Best Publication at an online ceremony hosted by broadcaster Jason Mohammad, having last won the award in 2014.

National Park Authority communications and marketing manager Marie Edwards said: “We are delighted that Coast to Coast has been recognised once again alongside so many other great entries and winners from the private and public sectors.

“Hundreds of thousands of copies are picked up across Pembrokeshire and beyond each year, helping people to learn more about the National Park and enjoy their visit.

“We would like to thank all the readers, stockists and advertisers for their ongoing support as we prepare to publish the 40th edition in 2022.”

National Park Authority chairman Cllr Paul Harries added: “The team should be extremely proud to have won another gold at these prestigious awards, which follows on from an incredibly successful few years despite the challenges posed by the pandemic and emphasises the high calibre of officers we have working for the Authority.

“The team works tirelessly to promote the National Park and the Authority in so many different ways, including the ever popular Coast to Coast, which continues to go from strength to strength.”

Kitty Parsons

Kitty has forgotten how long she has been here now but she loves Pembrokeshire for its beauty and it's people. She spends her time searching out stories for pembrokeshire.online, swimming in the sea , drawing and painting as Snorkelfish and eating cake. She says "Pembrokeshire.online has been an opportunity to celebrate this beautiful county and its people. Keep the stories coming. We love to hear from you."

You may also like...